Rhybudd melyn am eira a rhew o fore Mawrth ymlaen
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o eira a rhew ar gyfer oriau m芒n fore Mawrth a gweddill yr wythnos.
Mae'r siartiau tywydd diweddaraf yn dangos cawodydd o eira yn gweithio'u ffordd o ddwyrain Lloegr draw tuag at Gymru dros nos.
Yn 么l y swyddfa dywydd mae posibilrwydd o hyd at 2cm o eira mewn mannau, ond mewn llefydd eraill gall y trwch fod rhwng 5cm a 10cm.
Ond gallai gwyntoedd cryfion olygu bod y lluwchfeydd yn cael eu gwasgaru ymhellach, yn enwedig dros y bryniau.
Daw rhybudd y Swyddfa Dywydd wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru alw ar bobl i ofalu am gymdogion bregus yn ystod tywydd oer.
Ac mae prif weithredwr elusen i'r di-gartref yng Nghaerdydd wedi rhybuddio y gallai pobl farw yn yr oerfel dros y dyddiau nesaf.
Roedd Richard Edwards o Ganolfan Huggard i'r di-gartref yn siarad wrth iddo annog pobl sy'n cysgu allan ar y strydoedd i chwilio am le mewn lloches, a bod gwelyau ar gael ar eu cyfer.
Dywedodd y mwyafrif o awdurdodau lleol Cymru wrth 大象传媒 Cymru bod ganddyn nhw gyflenwadau digonol o halen er mwyn graeanu'r ffyrdd dros nos.
Mae disgwyl iddi fod yn rhewi peth cyntaf fore Mawrth, a'r tymheredd fod ar ei uchaf yn 2掳C weddill y dydd.
Mae'r Swyddfa Dywydd y Met hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o ragor o eira dros nos nos Fercher a dydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018