'Lladdwr tawel': Galw am godi ymwybyddiaeth o sepsis

Disgrifiad o'r sainRoedd Elfed Hughes yn ddyn iach cyn iddo gael sepsis
  • Awdur, Nia Thomas
  • Swydd, 大象传媒 Radio Cymru

Bron i ddwy flynedd ers colli ei g诺r mae dynes o Langefni yn dweud bod angen codi ymwybyddiaeth am sepsis.

Bu farw g诺r Fflur Mai Hughes, Elfed, wythnosau'n unig ar 么l ymddeol, ac yntau'n ddyn 55 oed iach.

Dywedodd Mrs Hughes wrth raglen Manylu ei bod wedi cymryd "amser maith" i dderbyn na fyddai hi wedi gallu achub ei gwr.

"Os oedd y doctoriaid ddim yn gwybod be oedd yn mater hefo Elfed pa obaith oedd gen i?"

Mae achosion o sepsis wedi cynyddu 20% yng Nghymru, ond nifer y marwolaethau wedi gostwng - prawf meddai'r llywodraeth bod y gwasanaeth iechyd yn fwy ymwybodol o'r cyflwr.

Disgrifiad o'r llun, Y sioc i Fflur a'i theulu oedd pa mor sydyn y gwnaeth iechyd ei g诺r ddirywio

Mae sepsis yn digwydd wrth i'r corff ymateb i haint, gyda'r ymateb hwnnw'n gallu niweidio organau'r unigolyn. I bob pwrpas mae'r corff yn ymosod ar ei hun.

Roedd Mr Hughes yn adnabyddus yn lleol fel un o gyfarwyddwyr cwmni adeiladu Huws Gray, ac mae Mrs Hughes wedi siarad am ei phrofiadau am y tro cyntaf gyda 大象传媒 Radio Cymru.

"Dwi wedi mynd dros y penwythnos yna - Ebrill 10, 2016 - filoedd o weithiau yn fy meddwl a meddwl be' fasa rhywun wedi ei 'neud yn wahanol, ac wedi teimlo euogrwydd mawr am fisoedd a misoedd wedyn.

"A ma' hi wedi cymryd amser maith i ddygymod 芒'r ffaith na faswn i ddim wedi gallu gwneud dim byd o gwbl i helpu neu i achub Elfed."

'Pa obaith oedd gen i?'

"Os oedd y doctoriaid ddim yn gwybod be oedd yn mater hefo Elfed pa obaith oedd gen i?

"Maen nhw'n ei alw fo yn silent killer am reswm oherwydd nad oes 'na lawer o symptomau, a hynny o symptomau sydd yna doeddan nhw ddim gan Elfed."

Mae nifer yr achosion o sepsis mewn ysbytai yng Nghymru wedi cynyddu 20% yn ystod y chwe blynedd hyd at ddiwedd Mawrth 2017.

Ond law yn llaw 芒 hynny mae nifer y marwolaethau o sepsis mewn ysbytai wedi gostwng 13% dros yr un cyfnod.

Pan gafodd Mr Hughes ei daro'n wael roedd meddygon Ysbyty Gwynedd o'r farn bod ei gorff yn brin o dd诺r, ac aeth yn 么l adref.

Gwaethygu wnaeth ei gyflwr dros yr oriau nesaf, ond roedd achos ei salwch yn dal yn ddirgelwch.

Cafodd nifer o brofion ac archwiliadau yn Ysbyty Gwynedd cyn i feddygon benderfynu ei fod angen llawdriniaeth.

Dywedodd Mrs Hughes: "Mi oeddwn i hefo to tan tua 10 neu 11 o'r gloch y nos pan oedd o'n mynd i'r theatr - a mi roedd o yn dal mor hwyliog ag yr oedd o.

"Ac o fewn ychydig wedyn mi oedd o wedi cael y small bowel volvulus, wedi cael sepsis ac wedi mynd i septic sioc a'i organau fo'n methu.

"Erbyn y bore Llun mi oedd o'n wael iawn iawn."

Y sioc fwyaf

Dros dair wythnos a hanner cafodd bum llawdriniaeth cyn colli'r frwydr.

Dywedodd Mrs Hughes mai'r sioc fwyaf oedd "sydynrwydd y peth, bod rhywun yn gallu mynd o fod yn holliach i fod wedi colli'r person yna mewn tair wythnos a hanner".

Disgrifiad o'r llun, Problem fawr yw gallu cleifion i wrthsefyll cyffuriau gwrthfiotig, yn 么l Dr Dafydd Williams

Meddyg yn adran gofal brys Ysbyty Gwynedd ydy Dr Dafydd Williams, sy'n gweithio ar brosiect i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i wella ymateb i achosion o sepsis a gostwng nifer y marwolaethau.

"Mae o'n sialens, ac o safbwynt y gwasanaeth iechyd ym Mhrydain, mae 'na ystadegau sy'n awgrymu eich bod chi'n bum gwaith yn fwy tebygol o farw ar 么l diagnosis o sepsis nac ydach chi o farw o ddiagnosis o str么c neu drawiad ar y galon...

"Hefyd o safbwynt gwrthsefyll cyffuriau gwrthfiotig - mae hyn yn broblem enfawr i'r byd, sydd yn fy marn i llawer pwysicach na Trump na Brexit na dim byd arall.

"Pan fyddwn ni'n rhedeg allan o antibiotics mi fyddan ni mewn trwbwl fel byd."

'Cofio'r person arbennig'

Mae Mrs Hughes yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o sepsis ac mae'n dosbarthu taflenni gwybodaeth.

"Mae'n bwysig nad ydan ni'n cofio Elfed oherwydd afiechyd a sepsis a bod ni fel teulu yn ei gofio fo am y person arbennig oedd o a mor ffeind oedd o.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth ond hefyd bod ni ddim yn anghofio cofio amdano fo am bwy oedd o."

Disgrifiad o'r llun, Mae ystadegau'n dangos fod unigolyn yn fwy tebygol o farw o sepsis na thrawiad ar y galon neu str么c

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r ystadegau'n profi fod y gwasanaeth iechyd yn fwy ymwybodol o sepsis a bod ymdrechion i'w drin yn fwy effeithiol.

Dywedodd llefarydd: "Mae ymdrechion Cymru i atal, adnabod a thrin sepsis yn gynnar wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.

"Ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno system i sicrhau bod cleifion sy'n ymddangos eu bod yn dirywio yn cael eu huwch gyfeirio yn sydyn, ac mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 sepsis wedi gostwng."

Manylu: Radio Cymru 12:30 ar 1 Mawrth a 16:00 ar 4 Mawrth ac ar gael ar yr I player radio o 0600 bore Iau 1 Mawrth.