´óÏó´«Ã½'n esbonio camgymeriad isdeitlo am Nigel Owens
- Cyhoeddwyd
Mae'r ´óÏó´«Ã½ wedi esbonio pam fod brawddeg am rywioldeb y dyfarnwr Nigel Owens wedi ymddangos ar yr isdeitlau yn ystod darllediad y gêm rygbi rhwng Yr Alban a Lloegr.
Fe ymddangosodd y geiriau "Nigel Owens is a gay" ar y sgrîn yn ystod y gêm ddydd Sadwrn, pan enillodd yr Alban o 25 i 13.
Roedd Owens newydd roi cic gosb i'r Alban pan ymddangosodd y geiriau.
'Camgymeriad'
Er i'r sylwebydd Andrew Cotter ddweud "Nigel Owens is saying", y gair "gay" gafodd ei gyhoeddi gan y feddalwedd sy'n gyfrifol am yr isdeitlau.
Cafodd y camgymeriad ei gywiro gan ´óÏó´«Ã½ Sport cyn gynted â phosib.
Mewn datganiad, dywedodd ´óÏó´«Ã½ Sport: "Mae'n gwasanaeth isdeitlo byw yn cyrraedd lefelau cywirdeb o 98%.
"Ar yr achlysur hwn, fe wnaeth y feddalwedd isdeitlo sy'n adnabod lleisiau gamgymeriad, ond cafodd ei gywiro'n syth."
Ar ei gyfrif Twitter ddydd Mawrth, dywedodd Owens nad oedd y camgymeriad wedi achosi loes iddo: "Mae'n drueni na ddigwyddodd hyn 25 mlynedd yn ôl, byddai wedi fy helpu i ddod o hyd i pwy oeddwn i mewn gwirionedd.
"Mae camgymeriadau'n digwydd felly dim problem o gwbl o fy rhan i ´óÏó´«Ã½ fe wnaeth i fi wenu," ychwanegodd
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r dyfarnwr rhyngwladol o Fynyddcerrig yn Sir Gaerfyrddin wedi siarad yn y gorffennol am ddod i dermau â'r ffaith ei fod yn hoyw.
Mae e wedi dyfarnu mewn tri chwpan byd, gan gynnwys y rownd derfynol rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn 2015.
Mae'r ´óÏó´«Ã½'n cynnig gwasanaeth isdeitlau ers yr 1980au er mwyn galluogi i bobl fyddar a thrwm eu clyw ddilyn rhaglenni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2015