Buddsoddiad o 拢1m yn creu 15 swydd dur yng Nghasnewydd

Ffynhonnell y llun, BRC Ltd.

Disgrifiad o'r llun, Fe ddarparodd BRC lawer o'r dur ar gyfer canolfan newydd 大象传媒 Cymru

Bydd 15 o swyddi newydd yn cael eu creu gan gwmni cyflenwi dur o Gasnewydd.

Daw'r cyhoeddiad wedi buddsoddiad o 拢100,000 gan Lywodraeth Cymru yng nghwmni BRC Reinforcement Ltd., fydd yn buddsoddi 拢1m eu hunain yn y fenter.

Mae'r cwmni, sy'n rhan o gr诺p Celsa, hefyd yn prynu peiriannau newydd a gwella'r ffatri er mwyn cynhyrchu mwy o ddeunydd.

Mae BRC yn un o brif gyflenwyr y diwydiant adeiladu, ac wedi darparu deunydd ar gyfer prosiectau mawr fel Crossrail, Mersey Link a ffordd osgoi Aberdeen.

Fe wnaethon nhw hefyd ddarparu llawer o'r dur ar gyfer canolfan newydd 大象传媒 Cymru ger gorsaf rheilffordd Caerdydd Canolog.

'Cefnogi dur yn flaenoriaeth'

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Kan Skates: "Mae cefnogi diwydiant dur Cymru drwy gyfnod anodd a heriol yn parhau'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.

"Gwnes lansio'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ym mis Rhagfyr y llynedd, a roddodd sylw i sicrhau bod modd i gymunedau ar draws Cymru elwa ar dwf economaidd.

"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd ein buddsoddiad yn helpu i sicrhau dyfodol llwyddiannus ar gyfer BRC yng Nghasnewydd."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ken Skates ei fod yn gobeithio y bydd y buddsoddiad yn sicrhau llwyddiant i BRC

Dywedodd Mr John Collins, rheolwr-gyfarwyddwr BRC: "Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i atgyfnerthu sefyllfa BRC fel prif wneuthurwr deunyddiau atgyfnerthu'r DU a all gyflenwi'r holl brosiectau seilwaith mawr.

"Rydym oll yn rhannu'r un amcan sef hyrwyddo cyrchu lleol a chyfrifol a'r economi gylchol. Golyga hyn fod gennym bopeth yn y DU ar gyfer adeiladu yn y DU.

"Gan fod cynifer o gwsmeriaid yn awyddus i weld cadwyn gyflenwi sy'n cefnogi gweithgynhyrchu yn y DU ac sy'n creu dur carbon isel, wedi'i ailgylchu ac atgyfnerthol rydym mewn sefyllfa unigryw i warantu ffynhonnell ein cyflenwad.

"Bydd y cyfarpar yma'n ein galluogi i gyflenwi hyd yn oed mwy yn ystod y blynyddoedd nesaf."