Ysgolion wedi cau a ffyrdd yn beryglus yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 100 o ysgolion wedi cau yn y gogledd ac mae amodau gyrru ar y ffyrdd yn beryglus wedi eira trwm.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, rhybuddiodd Heddlu'r Gogledd fodurwyr i fod yn ofalus.
Maen nhw'n cyfeirio'n benodol at ffordd yr A487 rhwng Bangor a Phorthmadog, ymlaen i Bwllheli a Blaenau Ffestiniog a'r A55 yn ardal Bangor ac yn Helygain yn Sir y Fflint.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r A470 i'r de tuag at Bae Colwyn hefyd wedi cau ac mae Arriva wedi dweud bod rhai bysiau ym Mangor mond yn teithio ar brif ffyrdd.
Disgynnodd eira yn y Canolbarth dros nos hefyd, gyda rhybudd fod rhai ffyrdd yn beryglus, gan gynnwys rhannau o'r A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig.
Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd yn parhau tan 11:00 fore Iau, gyda disgwyl i eira ac eirlaw ddisgyn.
Wedi hynny, mae disgwyl i'r cawodydd gaeafol droi'n ysgafnach ac yn fwy ynysig, cyn clirio tua'r dwyrain.
121 o ysgolion sydd ar gau ac maen nhw yng Ngwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy ac Ynys Môn.
Dyw Coleg Menai ym Mangor a Pharc Menai yn Llangefni ddim ar agor chwaith.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar wefannau'r cynghorau sir. Cliciwch ar y dolenni isod (nid yw'r wybodaeth ar gael yn Gymraeg ar bob gwefan):
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018