Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgolion yn wynebu 'argyfwng cudd' achos diffyg arian
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg ´óÏó´«Ã½ Cymru
Mae penaethiaid wedi siarad am "argyfwng cudd" sy'n wynebu ysgolion yng Nghymru oherwydd diffyg cyllid.
Mae 'na rybudd y gallai pwysau ariannol eisoes fod yn niweidio safonau gyda dosbarthiadau mwy a staff sy'n gorfod dysgu nifer o bynciau.
Wrth i gyllidebau'r flwyddyn nesaf gael eu penderfynu, mae ´óÏó´«Ã½ Cymru hefyd wedi cael gwybod ei bod hi'n debygol y bydd rhagor o swyddi'n cael eu colli mewn ysgolion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn blaenoriaethu cyllid i gynghorau er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd ysgolion yn uniongyrchol.
Mae Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac aelod o bwyllgor gwaith Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, yn dweud bod y sefyllfa'n fregus iawn.
"Mae 'na argyfwng cudd yn y sector addysg yn fy marn i. Pan mae problemau yn codi yn y gwasanaeth iechyd maen nhw yn tueddu i fod yn weladwy," meddai.
"Os ydy rhywun yn marw oherwydd eu bod nhw wedi gorfod aros i gael gwely mewn ysbyty, mae'n taro penawdau'r newyddion yn syth bin."
"Pe bai pobl yn sylweddoli beth sy'n digwydd mewn ysgolion - bod 'na lai a llai o wario ar adnoddau i blant, bod maint dosbarthiadau yn codi, bod problemau recriwtio staff erbyn hyn oherwydd maen nhw'n gweld bod y swydd ddim hanner mor hawdd i'w wneud ag oedd o ychydig flynyddoedd yn ôl - mi fydden nhw'n poeni bron cymaint."
'Anghysondeb cyllido'
Dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl Mr Foden, mae ysgolion cynradd wedi dechrau defnyddio staff heb gymwysterau dysgu i gamu i'r adwy wrth i athrawon dreulio amser yn cynllunio, paratoi ac asesu.
Yn ogystal â Mr Foden mae penaethiaid eraill yn poeni am anghysondeb cyllido ysgolion ar draws Cymru.
Mae Michael Davies, pennaeth Ysgol y Preseli yng Nghrymych, Sir Benfro, yn rhagweld y bydd 'na doriadau dyfnach nag erioed, gan gynnwys cwtogi cyrsiau TGAU a phartneriaethau gyda cholegau eraill.
"Mae'n mynd yn fwy o sialens bob blwyddyn. Ni wedi bod yn torri bob llinell yn y gyllideb yn raddol," meddai.
"Ond ni wedi cyrraedd y pwynt lle i ni yn gorfod torri'r adnodd pwysicaf yn yr ysgol sef y staff.
"Y staff sy'n cynnal y safonau yn yr ysgol, y staff sy'n darparu'r addysg i'n disgyblion ni. Ond nawr… ni'n gorfod torri staff hefyd."
Maen nhw wedi torri ar fuddsoddiad technoleg gwybodaeth yr ysgol, y cyrsiau datblygiad proffesiynol ac ar danwydd a gwresogi'r ysgol, meddai.
"I ni wedi torri rownd yr ymylon 'na i gyd ond erbyn hyn does dim unman arall gyda ni i fynd. I ni wedi torri i'r asgwrn."
Gofynnodd ´óÏó´«Ã½ Cymru i awdurdodau lleol Cymru am lefelau diffygion ariannol mewn ysgolion:
- Mae Pen-y-bont wedi rhagweld y bydd gan 26 o ysgolion y sir - dros hanner ohonyn nhw - ddiffyg o bron i £1.2m fis Ebrill;
- Ym Mhowys mae 34 o'r ysgolion yn y coch ar ddechrau'r flwyddyn ariannol hon gyda'r cyfanswm yn cyrraedd £2.48m;
- Yng Nghaerdydd roedd 11 o ysgolion mewn diffyg y llynedd, gydag un ysgol £1.6³¾ yn y coch;
- Roedd 7 o 12 ysgol uwchradd Sir y Fflint mewn diffyg ar ddechrau'r flwyddyn ariannol bresennol;
- Yn ôl Sir Benfro roedd disgwyl y byddai 15 ysgol gynradd a 4 ysgol uwchradd mewn diffyg ariannol ddiwedd Mawrth.
Mae lefelau'r cronfeydd sy'n cael eu cadw wrth gefn gan ysgolion Cymru wedi bod yn gostwng hefyd:
- Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, y cyfanswm oedd £46m, sy'n gyfwerth â £102 y disgybl;
- Yng Ngwynedd, yn ôl Mr Foden, roedd dros 30 o ysgolion gyda llai na £10,000 mewn cronfeydd wrth gefn. Roedd yn gwybod am 25 o ysgolion yn y sir oedd wedi dechrau diswyddo staff;
- Yn Ynys Môn roedd y lefelau uchaf o gronfeydd wrth gefn - sef £223 y plentyn;
- Sir Ddinbych oedd a'r lefelau isaf - diffyg o £70 fesul disgybl;
- Roedd cronfeydd wrth gefn Powys yn £2 bob disgybl.
Dywedodd Myfanwy Alexander - aelod o gabinet Cyngor Powys sydd â chyfrifoldeb dros addysg - fod natur wledig y sir yn golygu ei bod yn costio mwy i gludo plant a'u bod yn talu £68,000 y dydd am wasanaethau bysiau'n unig.
"Mae'r llywodraeth yn gofyn i ni ddarparu addysg a phobl yn dewis byw yng nghefn gwlad," meddai.
"Does gennym ni ddim modd i'r plant yna gyrraedd yr ysgol os oes gennym ni ddim digon o bres i dalu am y bysys.
"I fod yn onest 'dwi'n colli cwsg am gostau cludiant mwy nag unrhyw beth arall.
"Mae'r costau 'na yn codi o hyd ac o hyd a 'dwi ddim yn meddwl bod y llywodraeth yn deall yr her sydd gennym ni, jest i sicrhau bod y plant yn gallu cyrraedd yr ysgol."
Yn ôl Llywodraeth Cymru cyfrifoldeb cynghorau lleol yw cyllido ysgolion ac mae'n bwysig cydnabod nad oes "yr un awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5% yn eu cyllid craidd y flwyddyn nesaf".
Dywedodd y llefarydd hefyd fod camau wedi eu cymryd i flaenoriaethu cyllid i lywodraeth leol er mwyn sicrhau bod adnoddau "yn mynd yn syth at gefnogi gwariant ysgolion".
"Rydym yn cydnabod y pwysau y mae agenda llym barhaus Llywodraeth y DU yn ei roi ar ein gwasanaethau cyhoeddus, a dyna pam mai dim ond yr wythnos diwethaf cyhoeddodd yr ysgrifennydd addysg y byddai £14m yn cael ei gyfeirio at gefnogi pob ysgol ledled Cymru," meddai'r llefarydd.
"Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i flaenoriaethu cyllid ysgolion."