大象传媒

Dewis mabwysiadu plentyn 芒 Syndrom Down

  • Cyhoeddwyd

脗 hithau yn Ddydd Syndrom Down y Byd ar 21 Mawrth, siaradodd Cymru Fyw 芒 Gwyndaf, tad balch iawn Meilyr Tomos, o Sir Benfro:

Ffynhonnell y llun, Heather Tomos

Mae Meilyr yn 29 oed. Pan ges i a ngwraig, Heather, wybod amdano fe gynta', o'dd e'n bedwar mis, a daeth e aton ni pan odd e'n bum mis oed. Daeth e'n fab cyfreithiol i ni rhyw flwyddyn yn ddiweddarach.

Roedd rheolau yn bodoli yn Nyfed bryd hynny, os oedd un ohonon ni dros 35, oedden ni methu mabwysiadu plentyn 'normal' y's gweden nhw, ac o'n i yn fy 40au erbyn hynny.

Fuon ni'n trafod am fisoedd yngl欧n 芒 beth fydden ni'n medru ymdopi ag e, o ran anghenion arbennig.

Ar 么l i ni gael Meilyr, dyma ni'n darganfod mai ni oedd yr unig rieni o fewn Dyfed oedd yn chwilio am blentyn ag anghenion arbennig, felly tasen ni ddim wedi ei dderbyn e, falle fydde fe wedi gorfod mynd tu fas i Gymru. Mae hynny'n drist iawn.

Bywyd annibynnol

Dyw e ddim wedi cael bywyd mor wahanol 芒 hynny, ar y cyfan. Mae'n byw yn Abergwaun nawr gyda dau ffrind a gofalwr ac yn byw bywyd eithaf annibynnol.

Mae'n cael ychydig mwy o drafferth gydag ambell i beth, fel cyfri' arian - mae'n gallu ei wneud e ond mae'n cymryd sbel a s'dim yr amynedd ganddo.

Mae'n gwirfoddoli gyda'r Theatr Genedlaethol, a bob hyn a hyn mae'n helpu i gyfri'r arian ar 么l perfformiadau sydd yn addysg ac yn brofiad da iddo.

Mae hefyd yn helpu yn y swyddfa ac ym mlaen y t欧. Falle 'neith hwn arwain at swydd arall yn y dyfodol, pwy a 诺yr.

Ffynhonnell y llun, Heather Tomos

Ond mae'n arlunydd da - gwell na fi - mae e wedi gwerthu ambell i lun, a 'sai 'di gwerthu dim!

Ac mae'n canu'r piano yn wych. Mae'n un o'r organyddion yng nghapel Hermon, Abergwaun, ac yn chwarae tua dwywaith y mis.

Mae hefyd yn cael y cyfle i chwarae'r piano yn yr Eisteddfod a Sioe Hwlffordd bob blwyddyn, ac wedi recordio crynoddisg.

Ddim yn 'one size fits all'

Mae pobl sydd 芒 Syndrom Down 芒 gallu gwahanol i'w gilydd - mae Meilyr ychydig uwch na'r average mae'n si诺r. Mae rhai wedi pasio arholiadau ac 芒 swyddi, ond dyw rhai methu siarad, felly, mae'r ystod yn eang iawn.

Ond mae hynny'n union fel o fewn cymdeithas yn gyffredinol - mae'r wraig yn well yn academaidd, ond dwi'n well gyda fy nwylo. Mae'r un gwahaniaeth o fewn cymdeithas Syndrom Down - dyw e ddim yn one size fits all - ac mae angen i bobl sylweddoli hynny.

Mae pobl yn canolbwyntio ar y Down's, yn hytrach na'r person weithiau. Daeth dynes i siarad 芒 Heather yn y dref rhywbryd, a gofyn iddi hi yngl欧n 芒 beth oedd Meilyr yn ei wneud, er fod Meilyr yn sefyll yno o'i blaen.

Dyma Heather yn gofyn iddo "Beth wyt ti'n ei wneud, Meilyr?" a'i ateb oedd "'Sai'n gwybod - dim ond hanner br锚n sydd gyda fi...!" Rhoddodd hi yn ei lle yn wych - mae e bob amser wedi bod yn gymeriad!

Ffynhonnell y llun, Heather Tomos

Ond ar y cyfan, dydyn ni ddim wedi diodde' llawer o agwedd negyddol.

Pan 'naethon ni fabwysiadu, dywedodd rhai y byddai pobl yn croesi'r stryd er mwyn ein hosgoi ni, ond mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir - mae pobl yn croesi'r stryd er mwyn siarad 芒 Meilyr.

Os 'dyn ni eisiau picio i'r dre' am awr, fydd e'n cymryd dros ddwyawr i ni oherwydd fod pobl yn dod i siarad 芒 ni.

Mae Syndrom Down yn ei ddal yn 么l mewn ambell i ffordd, ond dim llawer - ond mae hunan-hyder arbennig gydag e - 'neith e siarad ag unrhyw un, unrhyw le. Ac mae ei synnwyr digrifwch yn un milain - ry'n ni'n cael llawer o sbort!

Mae cael Meilyr wedi gwneud i ni gydnabod pobl ag anghenion yn gyffredinol, ac rydyn ni'n fwy ymwybodol o ran peidio siarad dros y person, ond yn hytrach gyda'r person. Mae eisiau i ni ddangos beth mae pobl ag anghenion arbennig yn gyffredinol yn gallu ei wneud o fewn cymdeithas.

Fuon ni'n ffodus iawn i'w fabwysiadu e.

Ffynhonnell y llun, Heather Tomos