Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwella darpariaeth iaith yn amod i gytundeb meddygon
Fe fydd meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 1% dros y 12 mis nesaf ynghyd 芒 chymorth i ymdopi gyda chostau cynyddol yswiriant meddygol.
Ond fel rhan o'r cytundeb newydd dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid i feddygon wella'r ddarpariaeth iaith Gymraeg sydd ar gael.
Mae'r cytundeb rhwng y llywodraeth, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd hefyd yn galw ar feddygon i wella mentora a hyfforddiant ac adolygu'r cynnig recriwtio.
Daeth y cyhoeddiad yngl欧n 芒'r cytundeb cyflog mewn datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething ddydd Llun.
Diwygiad
Ar ben y newidiadau ariannol, cafodd newidiadau eraill i wella darpariaeth y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol eu cytuno, yn cynnwys:
- Gwerthuso'r Cynllun Denu a Chadw Meddygon;
- Cytuno ar ffordd o fynd ati i wella hygyrchedd gwasanaethau;
- Ymrwymiad i fonitro effaith symud i systemau TG eraill;
- Llacio'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau er mwyn lleihau'r pwysau o'r llwyth gwaith.
Ychwanegodd y datganiad: "Mae'r dull newydd hwn yn rhoi'r llwyfan inni ddiwygio'r contract presennol, i fynd i'r afael 芒 materion o fewn y system ac i ddatblygu'r ymrwymiadau hynny y mae'r llywodraeth hon wedi'u hamlinellu yn a ."
Bydd y pecyn ar gyfer meddygon teulu yn golygu cynnydd o tua 拢27m yn y buddsoddiad gan y llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth.
Mae'r BMA, y mudiad sy'n cynrychioli meddygon teulu, wedi dweud fod y cytundeb yn un positif a fydd yn sicrhau fod y proffesiwn yn un cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Charlotte Jones, cadeirydd pwyllgor Cymreig meddygon teulu y BMA: "Mae'r cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i feddygfeydd o ganlyniad i'r cynnydd ariannol a'r cymorth gydag yswiriant...
"Fe fydd o hefyd yn amddiffyn adnoddau meddygfeydd fel eu bod ar gael ar gyfer gofal cleifion."