Cyhoeddi John Mulvihill fel prif hyfforddwr y Gleision

Ffynhonnell y llun, Gleision Caerdydd

Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi mai John Mulvihill o Awstralia fydd yn olynu Danny Wilson fel prif hyfforddwr y rhanbarth.

Mae Mulvihill yn gadael ei r么l fel is-hyfforddwr gyda chlwb Honda Heat yn Japan i arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Gleision.

Mewn datganiad, fe wnaeth y clwb ddisgrifio'r g诺r 51 oed fel un "hynod o brofiadol ac uchel ei barch".

Roedd Undeb Rygbi Cymru hefyd yn rhan o'r broses i ganfod olynydd i Wilson, sy'n ymuno 芒 Wasps fel hyfforddwr y blaenwyr ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd Mulvihill: "Mae dechreuad newydd yn ennyn syniadau newydd a ffordd newydd o weithio, fydd yn hwb i'r chwaraewyr gyrraedd eu potensial fel unigolion ac fel gr诺p.

"Mae'n amser cyffrous i'r clwb, gyda hyfforddwr newydd eraill a chwaraewyr i'w cyhoeddi'n fuan."