大象传媒

Cysylltiadau Cymry 芒'r Gofod

  • Cyhoeddwyd
yuri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yuri Gagarin, y gofodwr o Rwsia a oedd yn arwr i'r Undeb Sofietaidd

Mae Mawrth 27 yn nodi 50 mlynedd ers marwolaeth Yuri Gagarin, y g诺r cyntaf i deithio i'r gofod.

Aeth Gagarin i'r gofod ar y capsiwl Vostok 1 ar Ebrill 12, 1961, gan hedfan drwy'r gofod am 90 munud cyn glanio'n 么l yn yr Undeb Sofietaidd.

Ond beth yw cysylltiadau Cymru gyda'r gofod?

Cymry yn sail i deithiau Apollo?

Roedd Hugh Percy Wilkins yn beiriannydd o Gaerfyrddin a helpodd NASA i lanio ar y lleuad yn 1969 gyda'i fapiau manwl o wyneb y lleuad.

Wrth baratoi at deithiau Apollo i'r gofod yn y 1960au fe brynodd NASA sawl copi o fap Hugh Wilkins wedi iddo fod yn astudio'r lleuad gyda thelesg么p o'i ardd gefn ers blynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Seryddol Crayford Manor House
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hugh Percy Wilkins a William Grove

Oni bai am y cyfreithiwr William Grove o Abertawe a ddyfeisiodd y gell danwydd gyntaf, efallai na fyddai'r Apollo 11 wedi gallu gadael y ddaear o gwbl heb s么n am lanio yn y lle iawn ar y lleuad.

Dyfeisiodd William Grove y gell danwydd hydrogen oedd yn cynhyrchu trydan gyda foltedd uchel yn 1842.

Dros gan mlynedd yn ddiweddarach roedd dyfais Grove yn sail i'r celloedd tanwydd gafodd eu defnyddio gan NASA ar gyfer teithiau orbit Gemini Earth, ac Apollo yn glanio ar y lleuad.

Ffynhonnell y llun, llanddaniel.co.uk
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Tecwyn Roberts n么l i'w hen ysgol yn Llanddaniel in 1974

Roedd Cymro, , yn un o swyddogion NASA oedd yn gweithio'n agos ar deithiau Apollo yn y chwedegau gyda Buzz Aldrin, Neil Armstrong ac eraill.

Fe gafodd fedal gan NASA am wasanaeth neilltuol.

Llun cynharaf?

Ffynhonnell y llun, John Dillwyn-Llewellyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r lluniau cynharaf o'r lleuad

Yn 1857 fe gynhyrchodd y Cymro John Dillwyn Llewellyn a'i ferch Thereza un o'r lluniau cynharaf o'r lleuad wedi iddo godi arsyllfa ar dir ei st芒d ym Mhenlle'r-gaer i'w ferch, oedd yn rhannu ei ddiddordeb mewn seryddiaeth.

Felly pan gerddodd Neil Armstrong ar y lleuad am y tro cyntaf yn 1969 roedd hi'n naid fawr i ddynoliaeth ond hefyd yn gam bach yn hanes cyfraniad Cymru at y ras i'r gofod.

Y Ddraig yn hedfan

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa'r Glannau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r Ddraig Goch aeth i'r gofod yn 1994

Ers hynny mae'r Ddraig Goch a'r iaith Gymraeg wedi bod i'r gofod sawl gwaith wrth i ofodwyr a gweithwyr NASA o dras Cymreig fel Dafydd Williams o Ganada, George Abbey o Seattle a Joe Tanner o Illinois fynd 芒'u balchder yn hanes eu teulu gyda nhw i'r gofod.

Joe Tanner, mab i ferch o Dregaron yng Ngheredigion, a chefnder i'r bardd Gwyneth Lewis, oedd y cyntaf i fynd 芒'r Ddraig Goch i'r gofod yn 1994 yn ystod un o'i bedair taith mewn gwennol ofod.

Yn 1995 daeth Tanner ar ymweliad 芒 Llanddewi Brefi lle roedd ei dad-cu yn brifathro a rhoddodd y faner i Amgueddfa Cymru.

Ffynhonnell y llun, Elin Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Joe Tanner yn Llanddewi Brefi yn 1995

Yr iaith yn y gofod

Ond mae'r iaith Gymraeg ei hun wedi mynd ymhellach na dim un o'r rhain.

Mae hi'n un o'r , y chwilwyr gofod gafodd eu lawnsio i archwilio'r gofod yn 1977 ac sy'n dal i anfon gwybodaeth n么l.

Cafodd yr iaith ei dewis ar gyfer y Cofnod Aur a gasglwyd gan y seryddwr a'r astroffisegydd Carl Sagan i gynrychioli bywyd ar y ddaear, rhag ofn y bydd Voyager yn dod i gysylltiad 芒 bodau eraill yn y gofod rhyw ddydd.

Mae'r Cofnod Aur yn cynnwys lluniau a synau'r ddaear a chyfarwyddiadau ar sut i ddarganfod y ddaear.

Ffynhonnell y llun, Asiantaeth Ofod Ewrop
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Beagle 2

Mae'r cyfarchiad Cymraeg - yr unig iaith Geltaidd yn y casgliad - yn dweud "Iechyd da i chwi yn awr, ac yn oesoedd."

Mae Voyager erbyn hyn wedi gadael cysawd yr haul a mynd yn bellach nag unrhyw loeren o'r blaen.

Oes 'na fywyd ar Mawrth?

Cafodd y Chwiliedydd Gofod Beagle 2 ei ddylunio'n rhannol ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd bellach yn cyfrannu at brosiect ExoMars 2018 i blaned Mawrth.

Mae Cymru eto felly'n cyfrannu at y prosiect diweddaraf i lanio ar blaned arall, a NASA wedi cyhoeddi ar gyfer eu lluniau hyfryd o'r blaned goch.

Safleoedd hynafol

Nid peth newydd yw ein perthynas gydag archwilio'r gofod - mae henebion fel C么r y Cewri yn dangos fod y s锚r a'r planedau wedi bod yn rhan ganolog o fywyd ein hynafiaid hefyd.

Ffynhonnell y llun, Rhys Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bryn Cellli Ddu wedi ei adeiladu i wynebu llwybr yr haul yn gwawrio

Roedd ein hynafiaid yn adeiladu cofebau o amgylch safleoedd arwyddocaol gwawrio a machlud yr haul, y lleuad a'r s锚r. Ceir nifer o'r safleoedd pwysig hyn yng Nghymru, gan gynnwys Bryn Celli Ddu yn Ynys M么n. Codwyd y gofeb, ger tref Llanddaniel-fab, tua 5,000 o flynyddoedd yn 么l.

Cymru cosmig

Fe wnaeth y dylunydd Hefin Jones siwt ofod o wl芒n Cymreig a chlocsiau gofod. Mae gwaith Jones yn dangos nad oes rhaid i bobeth sy'n ymwneud 芒'r gofod ymwneud ag ymchwil wyddonol.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa'r Glannau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Siwt ofod Hefin Jones sydd wedi ei gwneud o frethyn Cymreig