大象传媒

Llywodraeth yn 'llusgo traed' gydag ymchwiliad Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ddarganfod yn farw yn ei gartref

Mae cyfreithwyr sy'n cynrychioli teulu'r diweddar Carl Sargeant yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn llusgo'u traed gydag ymchwiliad i'w farwolaeth.

Cafodd Mr Sargeant ei ym mis Tachwedd, bedwar diwrnod ar 么l iddo gael ei ddiswyddo o gabinet y llywodraeth.

Roedd wedi ei wahardd o'r blaid Lafur ar 么l yr hyn roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw'n nifer o honiadau'n ymwneud 芒 menywod.

Mae Paul Bowen QC wedi ei benodi i arwain ymchwiliad i amgylchiadau diswyddiad Mr Sargeant a'r hyn ddigwyddodd wedyn.

Ond mewn datganiad dywedodd cyfreithiwr teulu Mr Sargeant bod Llywodraeth Cymru yn "barod yn hwyr" yn cwrdd 芒'r terfyn amser er mwyn dechrau'r gwaith.

Eisiau 'atebion'

Dywedodd y cyfreithiwr Neil Hudgell: "Mae'r Pasg bron a'n cyrraedd ni ac er addewidion Llywodraeth Cymru i ymateb i brotocol drafft y t卯m ymchwiliad... maen nhw'n barod bythefnos yn hwyr.

"Mae'r teulu yn edrych am atebion am yr amgylchiadau wnaeth arwain at farwolaeth drasig Carl, ac fe fydden ni yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru'n sensitif i'r ffaith bod y teulu dal yng ngwewyr galar.

"Mae angen i'r gwaith ddechrau."

Dywedodd llefarydd ar gyfer ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wrthi'n cadarnhau'r protocol gweithredol gyda Paul Bowen QC.

"Mae disgwyl i hyn gael ei orffen yn fuan iawn. Mae'r protocol yn manylu ar y trefniadau ar gyfer yr ymchwiliad annibynnol."