大象传媒

Degau'n dod i agoriad swyddogol T欧 Pawb Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ty Pawb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae T欧 Pawb yn ddatblygiad gwerth 拢4.5m

Cafodd canolfan gelfyddydol T欧 Pawb, ar safle Marchnad y Bobl yng nghanol Wrecsam, ei hagor yn swyddogol ddydd Iau.

Yn yr agoriad, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Wrecsam ei fod yn "un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y dref ers blynyddoedd".

Daeth degau i'r digwyddiad, oedd yn cynnwys anerchiad hefyd gan yr artist Bedwyr Williams.

Dywedodd fod cyffro ymhlith artistiaid i gael gofod penodol i gelf gweledol yng ngogledd Cymru.

Disgrifiad,

Ein gohebydd yn y gogledd-ddwyrain, Si么n Pennar fu'n rhoi blas o'r ganolfan newydd i Cymru Fyw

Mae'r datblygiad gwerth 拢4.5m, gafodd gefnogaeth ariannol yr awdurdod lleol a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn dod 芒 stondinau marchnad ac arddangosfeydd at ei gilydd.

Ymhlith y stondinau mae gwerthwyr fferins a dillad plant ynghyd ag artistiaid a chrefftwyr.

Yn wreiddiol, roedd pryder ymysg stondinwyr eu bod yn gorfod symud eu busnesau ac roedd pryderon am gost y cynllun.

Fe gaeodd Siop y Siswrn - oedd yn gwerthu nwyddau Cymraeg - yn 2016, gan ddweud bod ansicrwydd am ddyfodol y farchnad yn ffactor.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae lle yn y ganolfan i fasnachwyr a chrefftwyr, gan gynnwys gwerthwyr bwyd a diod

Ond dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, dirprwy arweinydd Cyngor Wrecsam, ei fod yn hyderus bod cefnogaeth i'r fenter bellach.

"Dwi'n hapus iawn," meddai. "Mae pobl heddiw yn cefnogi'r prosiect.

"Yn gyntaf, roedd dipyn bach o opposition, ond r诺an mae pobl yn hapus iawn."

Cyn dadorchuddio plac fel rhan o'r agoriad, dywedodd fod T欧 Pawb yn "un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y dref ers blynyddoedd" a'i fod yn lle i fasnachwyr ddod ynghyd ag i "feithrin talent".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r artist Bedwyr Williams yn falch bod lle "pwrpasol" i gelf yn y ganolfan

Yn 么l Bedwyr Williams, mae'n ddatblygiad pwysig i fyd celf Cymru.

"Mae'n rhoi lot o hyder i fi fod 'na gymuned o artistiaid yng ngogledd Cymru sy'n tyfu fwyfwy bob blwyddyn," meddai.

"Mae lot o orielau neu wagleoedd celf yn draddodiadol yng Nghymru yn vestibules neu gynteddau bach ar y ffordd i mewn i theatr.

"Ond be' sydd gennym ni yma [yn Nh欧 Pawb] ydy dwy oriel wedi eu hadeiladu'n bwrpasol i ddangos celf - ac mae hynna'n rhywbeth i'w ganmol."

Ymhlith yr atyniadau mae Wal Pawb, darn o gelf cyhoeddus gan yr artist Katie Cuddon, ac arddangosfa am ddyfodol y blaned dan ofal Angela Kingston.

Cafodd yr enw T欧 Pawb ei ddewis gan aelodau o'r cyhoedd yn 2017.

Bydd dathliadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ar 2 Ebrill, gan gynnwys gorymdaith drwy Wrecsam a th芒n gwyllt.