Pryder am effaith rheolau cwarantin ar sioeau amaeth

Fis cyn sioe amaethyddol gynta'r flwyddyn, mae pryder y bydd rheolau cwarantin newydd i ffermwyr yn golygu bod llai yn arddangos eu hanifeiliaid.

Mae'r rheolau'n golygu bod angen i ffermwyr gofrestru uned gwarantin ar y fferm er mwyn osgoi'r cyfyngiadau ar symud anifeiliaid am chwe diwrnod.

Mae trwydded i gael uned cwarantin ar fferm yn 拢172.80, ac yn para am 18 mis, ond y gred yw mai nifer isel iawn o ffermwyr Cymru sydd wedi gwneud cais am y drwydded.

Yn 么l ysgrifennydd un sioe mae trefnwyr yn bryderus, tra bod undeb amaethwyr wedi galw'r rheolau'n "gaeth".

Yn y gorffennol mae'r llywodraeth wedi dweud bod y rheolau newydd yn ymateb i alwadau gan y diwydiant i ailwampio'r sefyllfa bresennol.

Penderfyniad anodd

Ar hyn o bryd, os yw ffermwyr yn dod ag anifeiliaid newydd i'r fferm wedi sioe neu farchnad, mae gwaharddiad ar symud unrhyw anifeiliaid ar y fferm am chwe diwrnod.

Ond os ydy ffermwyr am symud anifeiliaid, er enghraifft i fynd i fwy nac un sioe mewn wythnos, mae'n rhaid cael uned gwarantin ar wah芒n.

Dywedodd Iwan Hughes, ffermwr gwartheg o Fodedern ar Ynys M么n, ei fod yn teimlo bod rhaid gwneud penderfyniad.

"Y teimlad dwi'n ei gael ydy dwi'n gorfod dewis, ydw i'n mynd i gefnogi'r Sioe Frenhinol, neu ydw i'n cefnogi sioeau lleol?

"Mae'n benderfyniad ofnadwy o anodd i mi ei wneud."

Byddai modd mynd i'r sioeau eraill pe bai parlwr godro ar wah芒n i'r anifeiliaid sy'n mynd i'r sioe, fyddai mewn uned gwarantin.

Ond dywedodd Mr Hughes y byddai hynny'n golygu "dau beth 'da chi ddim isio - cost a hassle".

Ychwanegodd bod ei deulu'n cefnogi'r Sioe Frenhinol ers blynyddoedd a bod meddwl peidio mynd yn "dorcalonnus".

'Trefnwyr yn bryderus'

Dywedodd Eirian Hughes, Ysgrifennydd Sioe Nefyn na fyddai'n effeithio cymaint ar Sioe Nefyn am ei fod yn gynnar yn y flwyddyn.

"Lle mae'n mynd i effeithio fydd nes ymlaen yn yr haf, pan mae mwy nag un sioe o fewn wythnos.

"Os nad ydy rhywun wedi gwneud y quarantine unit, yna fyddan nhw'n dewis a dethol eu sioeau, a'r pryder ydy y bydd sioeau bach yn dioddef.

"Mae trefnwyr sioeau yn gyffredinol yn hynod o bryderus dwi'n meddwl."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gwynedd Watkin bod y rheolau newydd yn "gaeth"

Er yn cydnabod bod angen rheolau i atal lledu afiechydon, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod y rheolau newydd yn gaeth iawn, a bod yr undeb yn "bryderus iawn".

Dywedodd Gwynedd Watkin ei fod yn ymddangos na fyddai llawer o ffermwyr yn cefnogi gymaint o sioeau oherwydd y rheolau "caeth".

"Sdim dwywaith bod angen rheolau, ond mae angen defnyddio tipyn bach o common sense, mae synnwyr cyffredin wedi mynd allan drwy'r ffenest bron..."

"Mae'r rheolau sydd wedi dod i mewn hefo'r cwarantin units ma yn golygu bod ffermwyr ddim yn gweld nhw'n gallu cadw at y rheolau, a felly ddim yn gwneud cais amdanyn nhw."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y rheolau newydd yn ymateb i alwadau gan y diwydiant i ailwampio'r sefyllfa bresennol.