Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pivac wedi trafod ag Undeb Rygbi Cymru am olynu Gatland
Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac wedi cynnal trafodaethau anffurfiol gydag Undeb Rygbi Cymru am olynu Warren Gatland yn 2019.
Y gred gan nifer yw bod y ras i olynu Gatland fel prif hyfforddwr y t卯m cenedlaethol rhwng Pivac a Dave Rennie, sydd 芒 Glasgow ar hyn o bryd.
Mae Pivac wedi dweud yn y gorffennol y byddai'n "ystyried o ddifrif" olynu Gatland.
Dywedodd y g诺r o Seland Newydd hefyd na fydd y Scarlets yn ail-arwyddo asgellwr Cymru, George North.
Mae North wedi cytuno i ddychwelyd i Gymru ar gytundeb deuol ar ddiwedd y tymor, ac mae disgwyl iddo benderfynu'n fuan at ba ranbarth fydd hynny.
'Dim cyfweliad ffurfiol'
Fe wnaeth Pivac ennill tlws y Pro12 gyda'r Scarlets y tymor diwethaf, ac mae wedi eu harwain at rownd gynderfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop eleni am y tro cyntaf ers 2007.
"Doedd o ddim yn rhywbeth ffurfiol, dim byd mawr," meddai Pivac am ei gyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru.
"Dim ond trafodaethau am fy nghytundeb yma, oherwydd rydw i newydd arwyddo cytundeb newydd gyda'r Scarlets.
"Rwy'n si诺r bod y mwyafrif o hyfforddwyr ar y lefel uchaf yng Nghymru wedi cael trafodaethau, ond does 'na ddim cyfweliad ffurfiol wedi bod."
Mae Pivac wedi dweud hefyd na fydd y Scarlets yn arwyddo North pan fydd yn gadael Northampton i chwarae yng Nghymru y tymor nesaf.
Roedd y rhanbarth wedi'u cysylltu'n gryf 芒 chefnwr y Cheetahs, Clayton Blommetjies, ac mae'r clwb o Dde Affrica wedi cadarnhau ddydd Mawrth y bydd y chwaraewr yn ymuno 芒'r Scarlets y tymor nesaf.
"Rydyn ni wedi cytuno i arwyddo rhywun sy'n chwarae yn y tri yn y cefn, a dim ond un fyddwn ni'n arwyddo," meddai Pivac.
"Dy'n ni ddim wedi cael gwybod ble mae George yn mynd. Mae pawb yn dal i ddisgwyl, ond allwn ni ddim disgwyl yn hirach felly dy'n ni wedi arwyddo rhywun."
Ychwanegodd y byddai'r chwaraewr newydd yn cael ei gyhoeddi "yn yr wythnosau nesaf".