Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Principality: Cyflogau menywod 31% yn is na dynion
Mae menywod sy'n gweithio i gymdeithas adeiladu Principality yn cael cyflogau sydd 31.5% yn is na dynion, ar gyfartaledd.
Mae'r manylion wedi eu cyhoeddi wrth i 9,000 o gwmn茂au drwy'r DU orfod datgelu'r gwahaniaeth cyfartalog rhwng gweithwyr gwrywaidd a benywaidd erbyn hanner nos, nos Fercher.
Wrth ymateb i'r data, dywedodd llefarydd ar ran y Principality fod y bwlch yn ganlyniad i ddemograffeg y cwmni.
Y bwlch cyfartalog rhwng menywod a dynion yw 18.4%.
Yng nghwmni Admiral, yr unig gwmni o Gymru sydd yn y FTSE 100, mae'r bwlch yn 5.1%.
8% heb fwlch
O'r holl gwmn茂au sydd wedi cyhoeddi data, mae 78% yn talu mwy i ddynion na menywod, tra bod 13% yn talu cyflogau uwch i fenywod.
Dim ond 8% ddywedodd nad oes bwlch o gwbl, yn 么l mesuriad y canolrif.
Mae'r bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod yn Llywodraeth Cymru yn 8.08%. Mae hynny'n cymharu gyda bwlch o 12.7% yng ngwasanaeth sifil y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i Arweinydd y Senedd i gynnal arolwg brys o'n polis茂au cydraddoldeb er mwyn rhoi hwb o'r newydd i'n gwaith yn y maes yma.
"Byddan yn gweithio'n agos gyda Chwarae Teg a phartneriaid eraill ar yr adolygiad, a fydd yn dechrau cyn gynted 芒 phosib."
O heddluoedd Cymru, roedd y bwlch mwyaf gan Heddlu De Cymru, oedd a bwlch o 20.2%. Roedd y bwlch lleiaf, 8%, gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae menywod yn cael cyflogau sy'n 17.3% yn is na dynion yn Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent.
Yn wahanol i Loegr, nid yw cynghorau Cymru'n gorfod cyhoeddi data ar y gwahaniaeth rhwng cyflogau, ond maen nhw'n gorfod cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau.
Yn unig glwb p锚l-droed Cymru sy'n Uwch Gynghrair Lloegr, Abertawe, roedd bwlch o 26.4% rhwng cyflogau dynion a menywod.
12.2% oedd y ffigwr i glwb Caerdydd.
'Adlewyrchu demograffeg'
Wrth ymateb i ganlyniadau'r Principality, dywedodd Rhian Langham o'r gydmeithas adeiladu: "O edrych ar y canlyniadau mae'n glir bod ein bwlch cyflog yn ganlyniad i ddemograffeg y cwmni.
"Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod gennym ddiwylliant cynhwysol ac amrywiol sy'n caniat谩u i ni gael y bobl orau yn y swyddi iawn er lles ein haelodau.
"Fel busnes, rydym yn annog cydbwysedd rhywedd ar bob lefel o fewn ein gweithlu, drwy edrych ar y ffordd yr ydym yn recriwtio, datblygu ac ysbrydoli cydweithwyr.
"Drwy wneud hynny, rydym yn hyderus y bydd y bwlch yn lleihau."