Agor gorsaf bad achub newydd Cricieth mewn seremoni

Ffynhonnell y llun, RNLI

Disgrifiad o'r llun, Mae'r orsaf newydd wedi ei leoli ar flaen traeth Cricieth

Mae seremoni arbennig wedi'i threfnu yn nhref Cricieth ddydd Sadwrn i ddathlu agor gorsaf bad achub newydd.

Mae'r orsaf newydd sydd wedi ei lleoli ar flaen traeth Cricieth wedi'i hadeiladu i gadw cwch Arancia, sydd wedi bod yn gweithredu ers 2011, a cherbyd lansio brys newydd.

Mae nifer o bobl leol wedi cyfrannu at adeiladu'r adeilad newydd.

Dywedodd Rheolwr Bad Achub Cricieth Peter Williams: "Nid yn unig fydd y seremoni yn gyfle i ni dderbyn yr adeilad a'r cerbyd yn swyddogol ond yn gyfle hefyd i ni ddiolch i'r cyfranwyr sydd wedi rhoi yn hael.

"Bydd eu cyfraniadau yn helpu tuag at ein tasg o achub bywydau ar y m么r," meddai.