大象传媒

Agor adeilad ysgol newydd gwerth 拢11.2m yn Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Mynedfa Ysgolion Pen Barras a Stryd Y Rhos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r naill ysgol yn un cyfrwng Cymraeg a'r llall yn un cyfrwng Saesneg

Mae adeilad ysgol newydd, gwerth 拢11.2m, yn agor ei drysau am y tro cyntaf yn Rhuthun ddydd Mawrth.

Mae'r adeilad newydd wedi ei godi yn ardal Glasdir, ac mae'n gartref i ddisgyblion dwy o ysgolion cynradd y dref.

Er yn uno ar yr un safle, fe fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Pen Barras, a'r ysgol cyfrwng Saesneg, Ysgol Stryd y Rhos, yn parhau fel dwy ysgol ar wah芒n.

Gobaith y cyngor yw y bydd yr adeilad newydd yn moderneiddio addysg yn y sir, ac yn "creu cymunedau lle mae pobl ifanc yn dewis byw, gweithio a dysgu ynddynt".

'Werth y byd'

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Marc Lloyd Jones, Pennaeth Ysgol Pen Barras: "'Da ni 'di aros yn hir am y diwrnod yma, wedi byw mewn ysgol oedd wedi pasio ei sell by date, a 'da ni mor falch i gael yr holl adnoddau newydd.

"Y peth mwya dwi'n credu ydy bo' ni'm yn gorfod rhannu adnoddau.

"Dros y blynyddoedd ma' Stryd y Rhos a ninnau 'di gorfod cyd-weithio i rannu neuadd a cae chwarae, a braf fydd hi rwan cael adnoddau i ni'n hunain a pheidio gorfod mynd i ffeirio amserlen a rhyw bethau felly, a'r ystafelloedd bach cyfarfod ychwanegol sydd mor, mor bwysig i ni gael gwersi offerynol neu gyfarfodydd 'efo rhieni - mi fydd hynny'n werth y byd i ni."

Ychwanegodd Pennaeth Stryd y Rhos, Bryn Jones: "Os 'da chi'n edrych ar y byd heddiw, a gyda'r holl newidiadau technegol sydd ar bob lefel o'n bywyd ni, 'oedden ni angen ysgol oedd yn adlewyrchu'r newidiadau yna er mwyn paratoi'r plant ar gyfer ymgymryd 芒'r newidiadau yna.

"Felly mae 'na lond llu o adnoddau gynnon ni ac ymhellach sy'n mynd i baratoi plant ar gyfer y ganrif yma."

Mae'r ysgol newydd wedi ei chodi ar dir lle roedd llifogydd difrifol yn 2012, ond dywedodd Mr Jones ei fod yn ffyddiog bod y mesurau sydd wedi eu rhoi yn eu lle yn mynd i gadw'r adeiladau newydd yn ddiogel.

"Dwi'n eitha hydreus. Maen nhw 'di codi lefel yr ysgol er mwyn ceisio osgoi rhyw lifogydd, a 'da ni 'di cael pob math o waith a chadarnhad gan yr asiantaethau yn ymwneud 芒 llifogydd y bydd y safle yn gwbl ddiogel ac yn sych."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y ddwy ysgol yn rhannu adnoddau fel cae chwarae a neuadd ar yr hen safle

Daeth cynllun yr ysgol newydd i fodolaeth yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, a hynny drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am addysg yn y sir, Huw Hilditch-Roberts: "Mae'r athrawon a'r myfyrwyr yn edrych ymlaen at eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol newydd sbon."

"Mae'r ysgol yn fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yn ardal Rhuthun. Bydd myfyrwyr yn cael budd ohoni am flynyddoedd lawer, ac roedd gweld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn beth braf iawn.

"Bydd y prosiect hwn yn ein helpu ni i wireddu ein blaenoriaeth gorfforaethol o ran sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn cefnogaeth i gyrraedd eu potensial a chael cyfleusterau ysgol modern sy'n gwella eu profiadau dysgu."