Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diffyg gwybodaeth am ganser y prostad yn 'ddigalon'
Mae elusen ganser wedi lansio cwrs ar-lein i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad ymysg meddygon teulu yng Nghymru.
Dywedodd Prostate Cymru y bydd y modiwl newydd yn gymorth i feddygon gyda diagnosis cynnar a thriniaeth effeithiol.
Mae canser y prostad yn effeithio ar un o bob wyth dyn yng Nghymru, ond mae un arbenigwr wedi dweud fod y wybodaeth brin sydd ar gael yn "ddigalon".
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae canllawiau ar gael i gefnogi meddygon teulu am gynnal profion am ganser y prostad."
Gwybodaeth yn 'hanfodol'
Andy Thomas yw cadeirydd Prostate Cymru, ac mae'n Llawfeddyg Wroleg Ymgynghorol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
"Mae'n ddigalon iawn fod cyn lleied o wybodaeth ar gael yn hawdd am y clefyd o gymharu 芒 mathau eraill o ganser," meddai.
Dywedodd Janine David, meddyg teulu ym Mhorthcawl: "Rwy'n credu bod angen i hyfforddiant presennol meddygon teulu fod 芒 mwy o wybodaeth am iechyd dynion yn ei chyfanrwydd, nid dim ond canser y prostad.
"Mae dynion yn wael iawn am ymchwilio i iechyd neu ofyn am gymorth gan feddygon, felly pan maen nhw'n gwneud mae'n hanfodol ein bod ni'n ymwybodol o'r risgiau ac yn cynnig profion am y math yma o ganser sy'n dod yn fwyfwy cyffredin."
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae canllawiau ar gael i gefnogi meddygon teulu ar gynnal profion am ganser y prostad, ac mae ein Fframwaith am Ganser yn cefnogi gofal iechyd cychwynnol yn y diagnosis a thriniaeth o amryw ganserau."
Mae'r cwrs ar-lein newydd gan Prostate Cymru wedi cael s锚l bendith Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, ac mae'r elusen yn gobeithio y bydd ar gael i fyfyrwyr meddygol a'r cyhoedd yn y pen draw.
40,000 achos bob blwyddyn
Yn 么l Galw Iechyd Cymru, mae canser y prostad yn datblygu'n araf ac mae'n bosib na fydd arwyddion amlwg o'r clefyd am flynyddoedd lawer.
Mae'n fwy tebygol i ddynion dros 50 oed gael y clefyd.
Dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith dynion gyda 40,000 o achosion newydd yn y DU bob blwyddyn.
Llynedd roedd nifer y dynion fu farw o ganser y prostad yn uwch na nifer y menywod fu farw o ganser y fron, a hynny am y tro cyntaf.
Y ddau fath o ganser sy'n lladd y nifer fwyaf yn y DU yw canser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn.