大象传媒

Sargeant: ACau'n pleidleisio yn erbyn cyhoeddi adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai cyhoeddi'r adroddiad yn rhoi unigolion "mewn lle anodd"

Mae ACau wedi pleidleisio yn erbyn cynnig oedd yn galw am orfodi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad ar ryddhau gwybodaeth.

Ddydd Mercher fe wnaeth y Ceidwadwyr gyflwyno cynnig yn y Senedd yn mynnu bod adroddiad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant wedi ei ryddhau i'r cyfryngau yn cael ei gyhoeddi.

Ond cafodd y cynnig ei wrthod o 29 pleidlais i 26, gydag un bleidlais wedi'i hymatal.

Yn gynharach roedd y gweinidog Mark Drakeford wedi dweud nad oedd gan y llywodraeth "unrhyw beth i'w guddio" drwy wrthod cyhoeddi'r adroddiad.

Ni chafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru oherwydd pryderon y gallai unigolion gymrodd ran yn yr ymchwiliad gael eu hadnabod.

Yn ystod y ddadl ddydd Mercher dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles y byddai cyhoeddi'r adroddiad yn peryglu ymchwiliadau yn y dyfodol ar ryddhau gwybodaeth.

Daeth y drafodaeth ar 么l i ymchwiliad gwahanol i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru ddod i'r casgliad nad oedd Carwyn Jones wedi "camarwain" y Cynulliad.

'Mewn lle anodd'

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones a gofyn i Lywydd y Cynulliad, Elin Jones ohirio'r drafodaeth ddydd Mercher.

Gwrthod y cais hwnnw wnaeth Ms Jones, gan ddweud nad oedd "wedi fy mherswadio gyda'r achos rydych chi wedi'i gyflwyno".

Yn ystod y drafodaeth ddydd Mercher dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies eu bod yn galw am gyhoeddi'r adroddiad "gyda'r enwau perthnasol wedi'u cuddio", gan wadu cyhuddiad y llywodraeth y gallai hynny arwain at ddatgelu pobl oedd yn dymuno aros yn gyfrinachol.

"Y peth moesol fyddai... bod yr adroddiad yma'n eistedd ochr yn ochr ag adroddiadau eraill sydd eisoes wedi'u cyhoeddi," meddai, gan gyfeirio at gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Disgrifiad,

Arwyn Jones sy'n asesu wythnos o "ffraeo na welwyd am flynyddoedd" yn y Cynulliad

Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru eu bod yn cefnogi'r cynnig oherwydd "yr egwyddorion o lywodraeth agored... ac atebolrwydd seneddol".

Ychwanegodd Neil Hamilton o UKIP fod Mr Jones yn ymddwyn fel "brenin absoliwt" yn y ffordd roedd yn dehongli hawl ACau i graffu arno.

Wrth ymateb ar ran y llywodraeth, dywedodd Mr Miles fod y cynnig oedd gerbron y ACau yn disgyn "y tu allan i sg么p pwerau Rhan 37" Deddf Llywodraeth Cymru.

Dywedodd fod y llywodraeth yn ceisio cael "eglurdeb", ond yn y cyfamser nad y cynnig gerbron ACau oedd y ffordd "briodol" o ddatrys y mater.

Ychwanegodd fod "arfer hir sefydlog o beidio cyhoeddi adroddiadau ar ryddhau gwybodaeth", a bod hwnnw yn ei le er mwyn peidio "niweidio ymchwiliadau i ollwng gwybodaeth yn y dyfodol".

Fore Mercher dywedodd Mr Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, nad oedd y llywodraeth yn cuddio gwybodaeth, ac y byddai cyhoeddi'r adroddiad llawn yn rhoi unigolion "mewn lle anodd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw fis Tachwedd y llynedd

Yn siarad ar 大象传媒 Radio Wales, dywedodd Mr Drakeford y gallai fod yn bosib adnabod unigolion hyd yn oed pe bai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi gyda rhai o'r manylion wedi'u celu.

Dywedodd ei fod yn deall bod llywodraethau'n agored i feirniadaeth "pan nad ydy pethau'n cael eu cyhoeddi ac mae pobl yn gwneud stwr".

Ond fe fynnodd nad oes 'na "unrhywbeth i'w guddio".

"Roedd 'na ymchwiliad, fe ddaeth i gasgliad, mae'r casgliad wedi ei gyhoeddi," meddai.

Ychwanegodd mai "safbwynt y llywodraeth yw y byddai pobl a gafodd addewidion wrth gynnig gwybodaeth mewn lle anodd" pe bai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi.

Beth oedd yn cael ei drafod ddydd Mercher?

Roedd cynnig ddydd Mercher, a gafodd ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Shan Morgan i ryddhau'r adroddiad.

Fe wnaeth ymchwiliad Ms Morgan ganfod am yr ad-drefnu.

Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar a oedd gwybodaeth am ddiswyddo Mr Sargeant wedi ei ollwng o flaen llaw.

Dywedodd Arweinydd y T欧, Julie James y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei roi i Paul Bowen QC, sy'n ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Mr Sargeant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Andrew RT Davies bod Llywodraeth Cymru'n ceisio "tawelu'r Cynulliad" wrth geisio atal y ddadl rhag digwydd

Cafodd y cyn-weinidog ei ganfod yn farw bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo, a hynny yn dilyn honiadau roedd yn eu gwadu ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol 芒 menywod.

Mae'r gwrthbleidiau wedi mynnu y dylai'r adroddiad gael ei chyhoeddi, gydag enwau perthnasol wedi'u cuddio ble bod hynny'n berthnasol er mwyn gwarchod cyfrinachedd unigolion.

Ym mis Chwefror wedi i'r llywodraeth ymatal, ond doedd y bleidlais ddim yn un gorfodol.

'Diffyg eglurdeb'

Yn eu cynnig newydd, mae'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn "gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i gydymffurfio 芒 dymuniadau Aelodau Cynulliad".

Maen nhw hefyd yn cynnig bod y Cynulliad, dan Adran 37(1)(b) Deddf Llywodraeth Cymru 2006, "yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb ganiat芒d mewn perthynas 芒'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Carwyn Jones fod "ddifyg eglurdeb" gyda'r rheolau presennol

Pan gafodd y mater ei godi yn Sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones ei fod wedi ysgrifennu at y Llywydd oherwydd pryderon am gyfrinachedd a bod "diffyg eglurdeb" am y rheolau presennol.

"Does gen i ddim ofn yr ymchwiliad i ollwng gwybodaeth - fi wnaeth ei orchymyn," meddai'r prif weinidog.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni warchod aelod blaenllaw o staff Llywodraeth Cymru fyddai, petai'r cynnig yn cael ei basio, yn wynebu risg o gael eu herlyn. Mae'n fater cyfreithiol o bwys difrifol."

Ond cafodd ei gyhuddo gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies o geisio "tawelu'r Cynulliad" a bod "uwchlaw'r gyfraith".

Dywedodd AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod y "bygythiad" i ddechrau camau cyfreithiol yn "dacteg bwlio", gan ychwanegu bod Plaid Cymru wedi "ymrwymo i sicrhau tryloywder llwyr" am farwolaeth Mr Sargeant, a bod ganddynt "gefnogaeth gadarn aelodau Llafur yn hyn o beth".