Gwaharddiad AC: Gwrthod ap锚l Michelle Brown o UKIP
- Cyhoeddwyd
Mae ap锚l un o ACau UKIP yn erbyn dyfarniad gan bwyllgor safonau'r Cynulliad y dylai hi gael ei gwahardd o'i gwaith yn ddi-d芒l am wythnos, wedi'i wrthod.
Daeth aelodau'r pwyllgor i'r casgliad fod Michelle Brown wedi torri'r c么d ymddygiad yn "ddifrifol", wedi iddi wneud sylw hiliol am AS Llafur.
Dywedodd y bargyfreithiwr Syr John Williams nad oedd Ms Brown wedi codi unrhyw ddadl fod y penderfyniad gwreiddiol yn ddiffygiol.
Disgwylir i'r mater gael ei gyflwyno gerbron Aelodau Cynulliad am benderfyniad terfynol ar 2 Mai.
Fe gafodd Ms Brown ei chyhuddo o ddisgrifio'r AS dros Streatham, Chuka Umunna, fel "cnau coco" - term sy'n cael ei ystyried yn ddilornus a hiliol - mewn galwad ff么n ym mis Mai 2016.
Roedd Ms Brown yn siarad ar y ff么n gydag uwch gynghorydd UKIP, Nigel Williams ar y pryd, mewn galwad gafodd ei recordio.
Fe gafodd y sgwrs ei chyhoeddi yn ddiweddarach gan bapur newydd y Daily Post.
Ym mis Chwefror, fe ddaeth 大象传媒 Cymru i ddeall fod y pwyllgor safonau wedi penderfynu y dylai Ms Brown wynebu gwahardd am wythnos.
Roedd ACau ar y pwyllgor, yn cynnwys Gareth Bennett o blaid UKIP, wedi dweud disgrifiad Ms Brown o Mr Umunna yn enghraifft o "gam-drin hiliol" a oedd yn "gwbl annerbyniol", yn dilyn ymchwiliad gan y comisiynydd safonau Syr Roderick Evans.
Mae Ms Brown eisoes wedi ymddiheuro am unrhyw niwed a achoswyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2017