大象传媒

Penodi Carys Ifan yn gyfarwyddwr newydd Yr Egin

  • Cyhoeddwyd
Carys IfanFfynhonnell y llun, John Beynon

Mae Carys Ifan o Geredigion wedi ei phenodi fel cyfarwyddwr Yr Egin, yr adeilad fydd yn gartref i bencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn disgwyl y bydd y ganolfan newydd yn ganolbwynt i'r diwydiannau creadigol yn y gorllewin ac yn agor ei drysau ym mis Medi.

Mae Ms Ifan, sy'n byw yn Llangrannog ac yn wreiddiol o Landudoch, wedi gweithio yn y maes diwydiannau creadigol ers 20 mlynedd, gan gynnwys ym meysydd ffilm, teledu, theatr, marchnata a digidol.

Hi hefyd yw trefnydd G诺yl N么l a Mla'n Llangrannog.

"Rwy'n hynod o gyffrous wrth dderbyn y cyfle euraidd yma i arwain ar waith Canolfan S4C Yr Egin wrth i ni ddatblygu clwstwr creadigol a chreu yr amgylchedd cywir i syniadau, cwmn茂au a chymunedau flaguro," meddai.

"Bydd y cydweithio, cyfathrebu a rhyngweithio triphlyg rhwng y tenantiaid, y gymuned a'r Brifysgol yn allweddol i ddatblygu cynnwys arbrofol, perthnasol ac uchelgeisiol ac i sicrhau bod cynnwys Cymraeg nid yn unig yn manteisio ond yn creu'r cyfleoedd diweddaraf i ddiwallu ac ysgogi cynulleidfaoedd amrywiol - adref a ledled y byd."

Mae 拢6m o arian cyhoeddus wedi ei wario ar godi adeilad Yr Egin ond mae'r cynllun wedi bod yn un dadleuol ar adegau.

Mae S4C yn bwriadu adleoli rhwng 50 a 55 o swyddi i'r ganolfan newydd.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is Ganghellor Cysylltiol Y Drindod Dewi Sant bod gan Ms Ifan "brofiad helaeth a phwrpasol o weithio o fewn amryw o gyd-destunau creadigol yng Nghymru yn ogystal 芒 threfnu digwyddiadau a gwyliau diwylliannol o bwys".

"Trwy ei brwdfrydedd, ei dealltwriaeth eang o'r diwydiannau creadigol ynghyd 芒'i chysylltiadau helaeth, edrychwn ymlaen i'w gweld yn rhoi'r weledigaeth ar waith gan sefydlu'r Egin yn ganolfan greadigol a digidol newydd i Gymru."