大象传媒

Carwyn Jones: Angen i Lafur Cymru 'sefyll yn unedig'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones wedi galw ar Lafur Cymru i "sefyll yn unedig" wrth i'r blaid ymgynnull ar gyfer ei chynhadledd.

Dywedodd y prif weinidog bod Llywodraeth Cymru yn cadw at eu haddewidion.

Hon yw'r gynhadledd gyntaf ers y datblygiadau dramatig ddechreuodd gyda marwolaeth Carl Sargeant fis Tachwedd y llynedd.

Bydd y gynhadledd hefyd yn gweld dirprwy arweinydd cyntaf Llafur Cymru yn cael ei phenodi.

Pwysau ar y prif weinidog

Mae'r etholiad rhwng Julie Morgan a Carolyn Harris wedi gweld cystadleuaeth dros faint o ddylanwad ddylai aelodau cyffredin gael dros ddewis arweinwyr a chyfeiriad y blaid.

Galw am etholiadau un-aelod-un-bleidlais mae Mrs Morgan, tra bod Ms Harris am gadw'r coleg etholiadol presennol.

Mae disgwyl i gynnig yngl欧n ag adolygiad o ddemocratiaeth o fewn blaid gael ei drafod dros y penwythnos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carolyn Harris a Julie Morgan yn cystadlu i fod yn ddirprwy arweinydd newydd Llafur Cymru

Bydd Mr Jones yn cyrraedd Llandudno yn dilyn cyfnod o bwysau trwm arno.

Yr wythnos hon fe lwyddodd i drechu yngl欧n 芒'r ffordd y cafodd gwybodaeth ei ryddhau ar ad-drefnu'r cabinet ddyddiau'n unig cyn i Mr Sargeant farw.

Mae'n un o dri adroddiad gafodd eu comisiynu gan y prif weinidog yn dilyn marwolaeth y cyn-ysgrifennydd cymunedau.

Fe wnaeth un arall o'r adroddiadau, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, ddweud dros honiadau o fwlio o fewn ei lywodraeth.

'Wynebu'r heriau'

Mewn datganiad cyn y gynhadledd, dywedodd: "Er y dylem fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi cyflawni gyda'n gilydd - aelodau Cynulliad, cynghorwyr, aelodau Seneddol ac undebau llafur - rhaid i ni hefyd sefyll gyda'n gilydd, yn barod i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau.

"Wrth i doriadau'r Tor茂aid frathu, mae diogelu gwasanaethau'n anoddach. Ac mae'n rhaid i ni sefyll yn unedig, gyda'n gilydd, i wynebu'r heriau."

Ychwanegodd bod ei lywodraeth wedi cadw at addewidion i fuddsoddi a gwarchod cymunedau.