Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybuddio pobl rhag croesi ffordd yr A470 ar droed
Mae pryderon wedi eu codi yn dilyn adroddiadau bod cerddwyr yn croesi ffordd ddeuol brysur i fynd i siop newydd ym Merthyr Tudful.
Fe wnaeth Cyngor Sir Merthyr Tudful drydar bod risg o "ddamwain ffordd ddifrifol", gan alw ar siopwyr i ddefnyddio llwybr tanddaearol yn hytrach na chroesi'r A470 i gyrraedd Trago Mills.
Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod traffig wedi bod yn adeiladu yn y cyffiniau, gan gynghori gyrwyr i ddefnyddio ffyrdd eraill os yn bosib.
Fe wnaeth y siop adrannol newydd gwerth 拢65m agor ei drysau ddydd Sadwrn ar 么l cymryd 18 mis i gwblhau'r gwaith adeiladu.