Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen 'pinsiad o halen' gyda sylwadau Rod Liddle
Mae cefnogwr i golofnydd dadleuol y Sunday Times, Rod Liddle, wedi dweud bod angen i bobl Cymru gymryd ei sylwadau amdanynt "gyda phinsiad o halen".
Dywedodd y newyddiadurwr James Delingpole mai j么cs diniwed oedd sylwadau Liddle am yr iaith Gymraeg.
Yn trafod gyda Mr Delingpole ar raglen Daily Politics, roedd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, sydd yn galw am fesurau i amddiffyn yr iaith yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mawrth.
Yn gynharach yn y mis, fe feirniadodd Mr Liddle bobl sy'n gwrthwynebu ail-enwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
Yn ei golofn, dywedodd y byddai'n well gan y Cymry pe bai'r bont yn cael ei henwi'n "rhywbeth annealladwy heb eiriau go iawn, fel Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy".
Cymru'n lle 'cwynfanllyd'
Dywedodd Mr Delingpole: "Os yw'r iaith Gymraeg yn dda, yna mae'n ddigon cryf i oroesi 'chydig o dynnu coes, tynnu coes oedd bron yn annwyl gan Rod Liddle."
Ychwanegodd bod Mr Liddle wedi "cyfaddef" ers hynny ei fod "yn eithaf hoff o'r Cymry", a bod angen i bobl Cymru beidio 芒 chymryd ei sylwadau o ddifrif.
Atebodd Ms Saville Roberts: "Mae siaradwyr Cymraeg a'r Cymry yn cael y math yma o driniaeth yn gyson ac rydyn ni jyst i fod i'w dderbyn.
"Mae disgwyl i ni ddweud 'paid 芒 bod mor groendenau, j么c ydy o'.
"Ond, i ddweud yn blaen, na, mae hyn yn cael effaith."
Dywedodd Mr Delingpole hefyd bod Cymru'n arfer bod yn "lle balch" ond bellach ei fod yn "lle cwynfanllyd, bron yn wladwriaeth les gwynfanllyd lle'r oll mae'r swyddogion etholedig yn gallu ei wneud yw cwyno am ba mor ddig ydyn nhw oherwydd colofnwyr cas".
Dadl Ms Saville Roberts oedd y dylai'r iaith fod yn nodwedd sy'n cael ei warchod yn yr un modd a hil, crefydd neu rywioldeb.