大象传媒

Creulondeb anifeiliaid ar ei uchaf ers pedair blynedd

  • Cyhoeddwyd
C诺n tenauFfynhonnell y llun, RSPCA

Mae nifer yr erlyniadau o bobl sy'n euog o greulondeb bwriadol neu esgeulustod o anifeiliaid ar ei lefel uchaf yng Nghymru ers pedair blynedd.

Dywedodd elusen yr RSPCA eu bod wedi crynhoi'r ffigyrau dros y cyfnod.

Yn 2017 llwyddodd yr elusen i sicrhau 148 o euogfarnau mewn llysoedd ynadon yng Nghymru. Mae hynny'n cymharu 芒 120 yn 2016, 89 yn 2015 a 116 yn 2014.

Roedd yr euogfarnau'n ymwneud 芒 67 o ddiffynyddion, sydd hefyd yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, ac fe roddwyd rhybuddion i 52 o droseddwyr eraill.

Cafodd y ffigyrau eu disgrifio fel rhai "hynod frawychus a thu hwnt o drist" gan uwch-arolygydd yr RSPCA yng Nghymru, Martyn Hubbard.

Achosion 'torcalonnus'

Fe ymchwiliodd yr RSPCA i dros 10,000 o gwynion o greulondeb dros y flwyddyn, gan gynnwys:

  • Dyn yn methu 芒 darparu gofal priodol i bum ceffyl gan arwain at "yr achos gwaethaf o garnau wedi gordyfu" a welodd arolygydd yr RSPCA erioed;

  • Ci mastiff yn cael ei adael mewn amodau mor wael fel bod yr arogl yn "llosgi llygaid" arolygydd;

  • Fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos merlen yn cael ei chwipio a'i chicio.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma oedd "yr achos gwaethaf o garnau wedi gordyfu" a welodd arolygydd yr RSPCA erioed

Ychwanegodd Mr Hubbard: "Mae'n echrydus ac yn hynod drist gweld y lefel hon o greulondeb erchyll ledled y wlad.

"Mae nifer yr euogfarnau a gafwyd nawr yr uchaf ers pedair blynedd yng Nghymru, ac mae ein harolygwyr yn delio ag achosion dihafal a phryderus iawn o gam-drin bwriadol ar anifeiliaid diymadferth.

"Y llynedd fe wnaethom ddelio 芒 sawl achos torcalonnus a oedd yn cynnwys tystiolaeth fideo oedd wedi cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Llwyddwyd i gael euogfarnau mewn achosion, er enghraifft, o fideo yn dangos tri dyn yn lansio llygoden fawr fel pelen canon o beipen.

"Mae'r dystiolaeth hon yn ddealladwy yn achosi cryn ofid ac yn destun cwyno a phrotestio ymhlith y cyhoedd. Yn ffodus oherwydd bod gwybodaeth werthfawr yn cael ei rhoi i ni yn gyfrinachol, gallwn ymchwilio a dwyn troseddwyr lles anifeiliaid o flaen eu gwell.

"Does dim esgus dros greulondeb i anifeiliaid a byddwn yn parhau i sicrhau bod pobl yn cadw at gyfreithiau lles anifeiliaid."