Elusen Hanfod Cymru i ddod i ben

Ffynhonnell y llun, Loteri Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Loteri Cymru ei lansio fis Ebrill 2017 gyda'r bwriad o godi 拢5m ar gyfer achosion da dros gyfnod o bum mlynedd, a Hanfod Cymru oedd yn gyfrifol am ddosbarthu'r arian i elusennau

Mae bwrdd Hanfod Cymru, yr elusen a oedd yn rhannu grantiau Loteri Cymru, wedi cyhoeddi ei fod am ddod i ben yn ystod haf 2019.

Yn 么l yr elusen: "Mae'r penderfyniad hwn yn uniongyrchol gysylltiedig 芒 phenderfyniad Bwrdd Loteri Cymru i roi'r cwmni hwnnw yn nwylo'r gweinyddwyr ar 27 Mawrth ar 么l 11 mis o fasnachu."

Dywedodd Cadeirydd yr elusen, Deris Williams, ei bod hi'n "siomedig tu hwnt bod angen yn awr i ni ddod 芒'r gweithgarwch nodedig hwn i ben".

Bydd y Prif Weithredwr, Sion Brynach, ac Angharad Gaylard, y Swyddog Gweinyddu Grantiau, yn gadael eu swyddi ar ddiwedd mis Mai.

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Hanfod Cymru eu bod nhw wedi bod yn rhan o'r trafodaethau i geisio dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer Loteri Cymru ond eu bod nhw wedi dod i benderfyniad wythnos diwetha na fyddai modd iddyn nhw barhau i ddosbarthu grantiau am mai Loteri Cymru oedd eu prif ffynhonnell ariannol.

Dywedodd Deris Williams, Cadeirydd Hanfod Cymru: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf ers lansio Hanfod Cymru, wedi bod yn un lwyddiannus tu hwnt (ac) rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusennau ar lawr gwlad ar draws Cymru.

"Rydym wedi bod yn ffodus tu hwnt hefyd o fod wedi cael aelodau nodedig o staff i yrru'r elusen ymlaen ac mae'n fater o dor-calon i fwrdd Hanfod Cymru ein bod yn awr angen gwneud y staff yn ddi-waith. "

Disgrifiad o'r llun, Fore Mercher, fe wnaeth yr elusen gyhoeddi ar eu gwefan eu bod nhw'n dod i ben

Mae'r elusen wedi dosbarthu grantiau gwerth 拢120,000 i 52 o elusennau yn y cyfnod ers ei lansio ym mis Ebrill 2017.

"Mae'n fater o falchder i'r bwrdd ac i'r staff ein bod wedi llwyddo i godi proffil yr elusen mor effeithiol mewn amser mor fyr," meddai Deris Williams, "ac yn siomedig tu hwnt bod angen yn awr i ni ddod 芒'r gweithgarwch nodedig hwn i ben."

"Er na fyddwn yn medru dosbarthu unrhyw grantiau pellach, byddwn yn dod 芒'r elusen i ben gyda record gwirioneddol drawiadol o fod wedi cynorthwyo 52 o elusennau led-led Cymru trwy ddosbarthu grantiau gwerth 拢120,000 i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ar lawr gwlad."