Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bangor yn disgyn o Uwch Gynghrair Cymru ar 么l methu ap锚l
Bydd CPD Dinas Bangor yn disgyn allan o Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf erioed wedi iddyn nhw fethu yn eu hap锚l am drwydded ddomestig.
Roedd y clwb wedi apelio yn erbyn penderfyniad cynharach gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru i beidio 芒 rhoi trwydded iddyn nhw ar gyfer tymor 2018/19, ond fe gawson nhw glywed ddydd Iau eu bod yn aflwyddiannus.
Ar hyn o bryd mae'r t卯m, sydd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru dair gwaith, yn drydydd yn y tabl gydag un g锚m yn weddill.
Mae Llanelli wedi cael trwydded ar 么l apelio, gan olygu y byddan nhw nawr yn cael eu dyrchafu o Gynghrair y De.
Fe wnaeth Cei Connah, oedd hefyd wedi methu 芒 chael trwydded ar yr ymgais gyntaf, lwyddo gyda'u hap锚l hwythau.
'Asesu'r sefyllfa'
Mewn datganiad dywedodd CPD Dinas Bangor: "Ar y cae rydyn ni wedi gorffen yn drydydd ac oddi ar y cae rydyn ni wedi diweddaru ein taliadau TAW a PAYE gyda'r Swyddfa Dreth, talu cyflogau yr holl garfan a staff, dim credydwyr p锚l-droed, dim dyledion dybryd, grantiau stadiwm a buddsoddiad newydd, i ganfod nad oes gennym ni nawr drwydded UGC ar gyfer tymor 2018-19!
"Byddwn yn asesu'r sefyllfa dros y dyddiau nesaf ac yn gwneud cyhoeddiadau pellach yn y man. Yn y cyfamser rydym yn gofyn i'r cefnogwyr aros yn driw i ni wrth i ni geisio dychwelyd i UGC cyn gynted 芒 phosib.
"Byddwn yn gweithio gyda'r cyrff perthnasol yn CBDC i sicrhau nad ydyn ni fyth mewn sefyllfa o'r fath yn y dyfodol."
Mae naw o'r 12 t卯m yn Uwch Gynghrair eisoes wedi sicrhau trwydded ddomestig ar gyfer y tymor nesaf - Aberystwyth, Y Bala, Y Barri, Caerfyrddin, Derwyddon Cefn, Y Drenewydd, Llandudno, Met Caerdydd, a'r Seintiau Newydd.
Mae'r clybiau hynny hefyd wedi sicrhau trwydded UEFA fyddai'n eu caniat谩u nhw i gystadlu yn Ewrop y tymor nesaf.
Mae Caernarfon, sydd wedi ennill Cynghrair Undebol Huws Gray, hefyd wedi cael trwydded ac felly wedi sicrhau dyrchafiad.
Dyw Prestatyn, sydd ar waelod yr Uwch Gynghrair, ddim wedi gwneud cais am drwydded gan olygu y byddan nhw'n disgyn ar ddiwedd y tymor.
Caerfyrddin yw'r t卯m arall sydd wedi gorffen yn y ddau safle isaf, ond gyda Bangor yn methu cael trwydded mae'r Hen Aur yn cael aros yn y gynghrair.
Mae'n rhaid i glybiau gael trwydded ddomestig - sydd yn cynnwys asesiad o'u hisadeiledd, strwythurau hyfforddi ac ieuenctid, a'u sefyllfa ariannol - gan y Gymdeithas B锚l-droed er mwyn cael cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru.