Protest yn erbyn cynlluniau i israddio Ysbyty Llwynhelyg
- Cyhoeddwyd
Mae degau o bobl sy'n gwrthwynebu cynlluniau i israddio prif ysbyty Sir Benfro wedi cynnal protest yno ddydd Sadwrn.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud newidiadau mawr i'r ysbytai dan ei ofal, gan gynnig tri opsiwn gwahanol.
Byddai'r holl opsiynnau hynny'n gweld Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn cael ei israddio o ysbyty cyffredinol i ysbyty cymunedol, gan olygu y byddai'n colli'r uned frys hefyd.
Mae dros 18,000 o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n gwrthwynebu'r newidiadau.
Gr诺p Llafur Preseli Penfro oedd wedi trefnu'r brotest, ddaw ychydig dros wythnos ers i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi.
'Ymgyrchu'
Dywedodd llefarydd ar ran y gr诺p: "Rydyn ni'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw gynnig o'r fath, a byddwn yn ymgyrchu yn erbyn unrhyw ymdrech gan Hywel Dda i israddio'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr ysbyty a'u symud o Sir Benfro."
Dan y cynlluniau, byddai ysbyty cyffredinol newydd yn cael ei adeiladu ar y ffin rhwng Sir G芒r a Sir Benfro, tra bo Ysbyty Glangwili Caerfyrddin hefyd yn colli gwasanaethau mewn rhai o'r opsiynau.
Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd, Steve Moore wedi dweud nad yw peidio ad-drefnu yn opsiwn, a'u bod wedi ystyried hynny.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn rhedeg am 12 wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018