大象传媒

'Amau' os fydd ffordd osgoi Bontnewydd yn digwydd

  • Cyhoeddwyd
Arwydd protestio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trigolion yn dweud bod angen dechrau ar y gwaith adeiladu

Mae trigolion Bontnewydd yn "dechrau amau" a fydd ffordd osgoi i'r pentref a Chaernarfon yn digwydd o gwbl, yn 么l Aelod Cynulliad.

Daw sylwadau AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian, wrth i tua 40 o bobl brotestio yngl欧n 芒'r oedi i'r gwaith adeiladu.

Cafodd y syniad ei grybwyll gyntaf 10 mlynedd yn 么l, a fis Mawrth fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod angen mwy o amser i ystyried o ganlyniad i'r "maint sylweddol o ohebiaeth" a gafwyd yngl欧n 芒'r ffordd osgoi.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth ei bod hi'n "hanfodol" bod "digon o ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r holl dystiolaeth" am y cynllun ac y byddai penderfyniad yn y gwanwyn.

'Rhwystredig iawn'

Y bwriad gwreiddiol oedd adeiladu'r ffordd osgoi chwe milltir, fyddai'n dechrau yn Llanwnda ac yn gorffen ger cylchfan Plas Menai, yn 2016 a'i gorffen erbyn y llynedd.

Ond yna cafodd y dyddiad ei newid i'r hydref eleni, gyda'r gwaith wedyn i fod i orffen erbyn diwedd 2019.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Sian Gwenllian AC mae trigolion lleol wedi bod yn ddigon amyneddgar

Nawr does dim dyddiad wedi ei roi ar gyfer dechrau'r gwaith ond mae'r contractwyr yn eu lle.

Yn 么l Sian Gwenllian mae trigolion wedi cael digon o'r sefyllfa.

"Ma' pobl yr ardal yn rhwystredig iawn erbyn hyn a dwi'n meddwl bod nhw wedi bod yn amyneddgar iawn, achos mi oedd y lon yma'n wreiddiol i fod wedi'i hagor erbyn yr haf yma a 'does yna'n dal ddim dyddiad i ddechrau'r gwaith.

"Felly 'does 'na ddim rhyfedd bod pobl 'di dod yma bore 'ma i brotestio, i ddangos bod nhw'n anhapus, ac i ofyn i Lywodraeth Cymru os gawn ni wybod beth yn union sy'n mynd ymlaen.

"Erbyn hyn mae gen i ofn bod pobl yn dechrau amau ydy'r ffordd yma'n mynd i gael ei hadeiladu o gwbl de."

Traffic trwm

Yn 么l y Cynghorydd Peter Garlick, sy'n cynrychioli Bontnewydd a Llanfaglan, mae'r tagfeydd traffig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "ofnadwy" ac mae angen i'r llywodraeth ymateb yn gadarnhaol.

"Mae'r traffig yn effeithio ar y pentrefi cyfagos hefyd. Mae'r traffig yn mynd 'n么l dwy neu dair milltir - fwy weithiau yn yr haf wrth gwrs.

"Mae'n ymestyn 'n么l i dref Caernarfon, mae'n ymestyn fyny i bentre' Llanwnda, ac os rhywbeth mae'n ymestyn 'mlaen i gyfeiriad Groeslon."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed pobl leol bod y traffic yn gwaethygu ac nid yn unig yn ystod yr oriau brig

Saer Coed hunangyflogedig yw Sion Lloyd, sy'n cwyno fod y sefyllfa yn effeithio ar ei fusnes.

"Dwi'n gorfod mynd ar y l么n o un joban i'r llall neu i 'n么l nwyddau a dydy pobl ddim yn fodlon talu i mi fod ar y l么n. Mae'n ridiculous faint o amser mae'n cymryd i bobl fynd drwy Bontnewydd.

"Dydy o ddim jyst yn broblem i mi, ond i fusnesau eraill yn lleol."

Gwerthuso tystiolaeth

Pryder arall yw bod gyrwyr yn mynd trwy bentrefi fel Saron a Llanfaglan ar gyflymder uchel er mwyn osgoi ardal Bontnewydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn deall bod trigolion eisiau penderfyniad ar y ffordd osgoi.

"Fodd bynnag mae'n hanfodol ac yn hollol gywir fod ystyriaeth sylweddol yn cael ei rhoi i'r holl dystiolaeth yngl欧n 芒 phrosiect mawr," meddai'r llefarydd.

"Rydyn ni yn ystyried mewn manylder y canfyddiadau ac argymhellion adroddiad yr archwilydd 芒'r lefel uchel o ohebiaeth o blaid ac yn erbyn y cynigion fel rhan o'r broses statudol.

"Mae'n hollbwysig eu bod nhw i gyd yn cael eu gwerthuso ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i wneud penderfyniad yn y gwanwyn."