大象传媒

'Dim rhuthro' ar benderfyniad morlyn llanw Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Morlyn AbertaweFfynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y cyn-weinidog ynni Charles Hendry, byddai'r cynllun morlyn Bae Abertawe yn fforddiadwy

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrth D欧'r Arglwyddi na fyddan nhw'n "rhuthro" i benderfyniad ar forlyn llanw Bae Abertawe.

Mae hi bellach dros flwyddyn ers i adroddiad Hendry argymell cefnogi'r lag诺n, fyddai yn 么l datblygwyr yn ddigon mawr i ddarparu p诺er i 120,000 o dai.

Ond cafodd gweinidog o'r adran fusnes, yr Arglwydd Henley, ei feirniadu ar 么l dweud wrth arglwyddi y byddai "penderfyniad yn cael ei wneud ar yr adeg briodol".

Galwodd y Ceidwadwr y Fonesig Finn ar y llywodraeth i "beidio gwastraffu amser", a dywedodd y Fonesig Bloomfield fod y penderfyniad "wedi bod yn y glaswellt hir am ddigon".

'Esiampl warthus'

Mynnodd yr Arglwydd Henley fod Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn parhau i asesu'r cynllun, gan ddweud fod yn rhaid iddo "gynnig gwerth am arian i drethdalwyr y DU a chwsmeriaid".

Ychwanegodd: "Mae nifer o faterion i'w hystyried... nid yn unig y costau, ond ystyriaethau amgylcheddol. Fe fyddwn ni'n ystyried y rheiny i gyd ac yn gwneud cyhoeddiad ynghyd 芒 Llywodraeth Cymru pan mae'n briodol."

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley fod yr oedi'n gosod "esiampl warthus i fusnesau a phawb arall bod y llywodraeth mor araf ynghylch y mater yma".

Ychwanegodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd Morris o'r blaid Lafur bod yr oedi, a chanslo trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, yn rhoi'r argraff bod de Cymru "ar waelod y ciw".