Gaeaf caled yn effeithio ar gystadlu Sioe Nefyn

Disgrifiad o'r llun, Mae Eirian Lloyd Hughes yn ysgrifennydd Sioe Nefyn ers 1989

Sioe Nefyn yw sioe amaethyddol gynta'r tymor ac eleni bydd llai o ddefaid a gwartheg yn cystadlu oherwydd y gaeaf caled.

Dywedodd Eirian Lloyd Hughes, ysgrifennydd y sioe, ei bod yn teimlo "bod llai o stoc wedi'u cofrestru eleni am fod tywydd gwael y gaeaf wedi effeithio ar ffermwyr.

"Mae nifer wedi dweud wrthai nad yw eu stoc yn edrych yn ddigon da i ddod i'r sioe."

Er hynny dywedodd bod nifer y ceffylau sydd wedi'u cofrestru i gystadlu yn uchel ac mae'n ymddangos y bydd nifer o g诺n hefyd yn ymweld 芒'r sioe.

Ychwanegodd: "Mae'r c诺n yn cofrestru ar y diwrnod ac felly dyw'r nifer ddim gynnon ni ond mae'n ymddangos bod nifer am gystadlu."

Disgrifiad o'r llun, 'Mae'r gaeaf caled wedi cael effaith ar sut mae'r gwartheg yn edrych'

Mae pwyllgor y sioe yn credu hefyd bod y ffliw adar wedi cael effaith ar nifer yr ieir.

"Dwi'n meddwl mai rwan da'n ni'n gweld canlyniadau'r ffliw adar," meddai Eirian, sy'n ysgrifennydd y sioe ers 1989.

"Bu'n rhaid cadw adar i mewn am gyfnod ac felly dwi'n meddwl bod y ffaith nad ydynt wedi bod allan yn effeithio ar y cystadlu yn y sioe."

Tan troad y ganrif arferid cynnal y sioe ar ddydd Llun y Pasg ond wedi i'r sioe gael ei chanslo yn ystod cyfnod clwy' y traed a'r genau penderfynwyd ei chynnal ar ddydd Llun cyntaf Mai.

"Mae'r cyfnod yma yn well," meddai Eirian Hughes, "mae hi'n brafiach ac mae'r cyfnod wyna i bob pwrpas ar ben."

Disgrifiad o'r llun, Y dorf yn mwynhau Sioe Nefyn yn 2015

Roedd yna ofnau y byddai'r rheolau cwarantin newydd yn effeithio ar nifer y cystadleuwyr ond dyw hynny ddim wedi cael effaith o gwbl am mai sioe Nefyn yw'r cyntaf o'r sioeau amaethyddol.

"Does 'na ddim sioeau eraill ar hyn o bryd na chwaith arwerthiannau o gwmpas dyddiad y sioe ac felly ry'n wedi bod yn hynod o lwcus," dywedodd Eirian.

Mae'r sioe, fel arfer, yn denu oddeutu pedair mil o bobl ac mae'r trefnwyr yn gobeithio am dyrfa debyg eleni gan fod y tywydd i fod yn braf.

"Dewch yn llu,"meddai Eirian, "mae 'na stondinau crefft, arwerthwyr peiriannau amaethyddol a ffair - rhywbeth i bawb."

Mae rhaglen Ifan Evans yn darlledu o'r sioe brynhawn Llun am 14:00