Ffermydd dofednod yn 'bygwth yr amgylchedd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynnydd "ffrwydrol" yn nifer y ffermydd dofednod sy'n cael eu sefydlu yng Nghymru yn bygwth yr amgylchedd, yn 么l mudiad cefn gwlad.
Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn galw ar weinidogion i sefydlu "strategaeth hirdymor" ar gyfer y diwydiant.
Dylai Llywodraeth Cymru rheoli'r sefyllfa gan gapio nifer yr unedau dofednod dwys sy'n cael eu cymeradwyo, meddai un aelod cynulliad.
Ym Mhowys yn unig, mae 99 o geisiadau am siediau dofednod newydd wedi'u cyflwyno ers 2011, fyddai'n cynnwys tair miliwn o ieir. Dim ond un cais sydd wedi ei wrthod.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod ffermydd dofednod yn dod o dan yr un rheolau cynllunio a phob math arall o eiddo, ac mai mater i'r awdurdod lleol oedd ystyried ceisiadau fel hyn.
Fore Mercher, fe wnaeth cynghorwyr Sir Gaerfyrddin ohirio penderfyniad ar gais cynllunio dadleuol i godi sied yn Llangadog ar gyfer 32,000 o ieir i gynhyrchu wyau maes.
Fe wnaeth aelodau o bwyllgor cynllunio'r awdurdod bleidleisio dros gynnal ymweliad 芒'r safle cyn dod i benderfyniad terfynol.
Cafodd y cais gwreiddiol ei wrthod n么l ym mis Hydref ar gyfer codi'r uned ar dir Fferm Godre Garreg yn sgil pryderon ei fod e'n rhy agos at dai cyfagos. Roedd dros 1300 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cais, gyda rhyw 33 yn ysgrifennu llythyrau o gefnogaeth.
Fe fyddai'r sied yn 140m o hyd ac yn 6.69m o uchder ar ei bwynt uchaf. Fe fydd yn bedair storfa fwyd gerllaw hefyd fydd yn 7.64m mewn uchder.
Mae'r ymgeiswyr, y teulu Hughes, wedi symud lleoliad yr uned erbyn hyn i leoliad arall ar y fferm, ac mae swyddogion cynllunio yn argymell caniat谩u'r cais.
Mae nifer o bobl yr ardal yn parhau i wrthwynebu'r cais. Yn 么l Cyngor Cymuned Llangadog, mae'r lleoliad yn "anaddas" oherwydd ei fod e'n rhy agos at "nifer o dai cyfagos" (llai na 200m).
Mae 大象传媒 Cymru yn deall fod un o drigolion yr ardal wedi gwneud cais i'r mater gael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod nhw'n "ystyried y cais" ac nad oedd hi'n briodol i wneud sylw pellach.
"Mae hi'n fater i awdurdodau cynllunio i benderfynu a ydy cais yn briodol neu beidio."
Doedd yr ymgeiswyr ddim am wneud unrhyw sylw cyn bod y cais yn cael ei drafod gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir G芒r. Mae swyddogion Cynllunio yn argymell caniat谩u'r cais gyda rhyw 31 o amodau.
Mae Ymgyrch Ddiogelu Cymru Wledig yn honni bod 'na "ganlyniadau amgylcheddol difrifol" i'r sefyllfa bresennol.
Mi fydd yn cyflwyno deiseb, sydd wedi ei llofnodi gan dros 4,000 o bobl, i'r Cynulliad Cenedlaethol ymhen wythnos.
Mae'r elusen am weld rheolaeth fwy caeth a gwell arweiniad o ran caniat芒d cynllunio.
Mae baw yr ieir, meddai'r mudiad, yn mynd mewn i afonydd lleol ac yn effeithio ar amrywiaeth planhigion wrth iddo gael ei ledu ar gaeau.
Mae ffynonellau o fewn y sector ffermio yn awgrymu bod y cynnydd mewn ceisiadau ar gyfer siediau dofednod yn dod yn rhannol yn sgil Brexit, gydag amaethwyr yn arallgyfeirio wedi pryderon y bydd hi'n anoddach i allforio cig oen a chig eidion yn y dyfodol.
Mae'r galw am wyau'n uchel hefyd ac maen nhw'n cael eu gwerthu bron yn gyfan gwbl o fewn Prydain.
Law yn llaw 芒 hyn mae banciau wedi bod yn barod iawn i gymeradwyo benthyciadau ar gyfer datblygiadau lle mae'r dofednod yn rhydd gan fod archfarchnadoedd wedi ymrwymo i beidio 芒 gwerthu wyau sydd wedi eu cynhyrchu gan ieir mewn cewyll erbyn 2025.
Ond mae llefarydd dofednod NFU Cymru, Victoria Shervington-Jones, yn dadlau bod cynhyrchwyr yn cael eu rheoleiddio i'r safonau uchaf.
Mae hi'n cadw 39,500 o ieir ger Saint-y-brid ar Lefelau Gwent ac yn cyflenwi wyau i Tesco, gwestai lleol a busnesau eraill.
"Mae cyfyngiadau enfawr ar ffermydd dofednod sy'n sicrhau nad oes 'na beryg i'r amgylchedd."
"Mae holl gynhyrchwyr dofednod yn cael eu rheoleiddio'n gadarn gan Gyfoeth Naturiol Cymru a thrwyddedau amgylcheddol."
Cyfyng gyngor
Dywedodd Simon Thomas, AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fod yna gyfyng gyngor yn wynebu Llywodraeth Cymru wrth greu rheolau posib i gyfyngu ar ffermydd dofednod.
"Mae gyda chi ddau fath o'r ffermydd yma, y rhai dan do a'r rhai lle mae'r ieir yn cael bod allan a rhedeg yn rhydd," meddai.
"Mae llawer o'r problemau gyda baw ieir, amonia, s诺n ac ati, yn waeth gyda'r ffermydd lle mae'r ieir yn cael bod allan, ac mae llawer haws rheoli'r problemau yn y rhai dan do.
"Ond o safbwynt lles yr anifeiliaid wrth gwrs, mae'n llawer gwell eu cael nhw allan felly mae llawer o waith i wneud i ffindio beth sydd orau."
Yn 么l un o'r gwleidyddion fydd yn ystyried y ddeiseb, AC Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders, dylai Llywodraeth Cymru fod yn rheoli'r sefyllfa.
"Dwi'n credu dylai Llywodraeth Cymru fod yn capio nifer yr unedau dofednod mawr, y rhai sy'n cadw 30,000, 50,000 neu hyd yn oed 100,000 o adar unigol. Dyma or-gynhyrchu ar raddfa fawr - nid dyma'r ffordd ymlaen i Gymru," meddai.
"Mae pobl yn chwilio am gynnyrch organig, ieir sy'n crwydro."
Gweledigaeth?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein gweledigaeth ni yw gweld diwydiant dofednod llewyrchus a dygn fydd yn hybu lles Cymru nawr ac i'r dyfodol, a'r unig ffordd o wneud hynny yw sicrhau'r safonau uchaf o iechyd a lles gan leihau'r defnydd o wrth-feiotigau a'r effaith ar yr amgylchedd.
"Mae ffermydd yn cael eu rheoli gan yr un rheolau cynllunio a phob math arall o eiddo.
"Mae materion fel s诺n, traffig, effaith amgylcheddol, hwylsutod a iechyd i gyd yn cael eu hystyried gan yr awdurdod lleol gan wrando ar gyngor arbenigol.
"Mae ffermydd dofednod mawr hefyd yn dod o dan Reolau Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n cael effaith ar yr amgylchedd."
Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ymchwil brys a darparu cyngor mwy cyfredol i adrannau cynllunio cynghorau lleol.
Mae'r ymgyrchwyr hefyd am weld y diwydiant yn talu mwy tuag at gostau rheoleiddio a monitro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd27 Medi 2017