大象传媒

Rhybudd elusen am beryglon seliag

  • Cyhoeddwyd
baraFfynhonnell y llun, Diana Pappas / Alamy Stock Photo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n rhaid i bobl sydd 芒'r cyflwr osgoi bwyd 芒 glwten

Mae'r elusen Coeliac UK wedi rhybuddio bod pobl yn dioddef problemau iechyd oherwydd diffyg diagnosis amserol o'r cyflwr.

Mae'r salwch yn golygu bod yn rhaid osgoi glwten, sydd yn bresennol mewn bara a grawnfwydydd eraill.

Fe allai diagnosis hwyr arwain at gymhlethdodau yn cynnwys difrod niwrolegol difrifol.

Mae Cerys, 16 oed, o Gaerdydd yn dweud fod ei chyflwr yn gallu gwneud pethau'n anodd o ran bwyta ar adegau, ond ei bod yn bwysig rhag bod yn s芒l.

Disgrifiad,

Mae Cerys o Gaerdydd yn byw gyda chlefyd seiliag

Yn 么l prif weithredwr Coeliac UK Sarah Sleet "Mae'r ffaith ei bod yn dal i gymryd 13 o flynyddoedd ar gyfartaledd i rywun gael diagnosis yn annerbyniol ac yn creu problemau iechyd tymor hir difrifol i nifer o bobl.

"Mae gennym hanner miliwn o bobl o hyd sy'n byw gyda chlefyd seliag heb ddiagnosis, ac mae angen i ni symud yn gyflymach i gael diagnosis iddynt er mwyn osgoi'r cymhlethdodau hirdymor hyn rhag digwydd.

"Er enghraifft, mae rhai cleifion wedi byw gyda'r cyflwr cyhyd, erbyn i'w cyflwr niwrolegol gael ei nodi fel wedi ei achosi gan glefyd seliag, mae'r difrod yn ddi-droi'n 么l ."

Dywedodd yr elusen bod angen rhagor o waith ymchwil yn ogystal ag ymwybyddiaeth well o'r cyflwr er mwyn cyflymu'r broses o gael triniaeth.