大象传媒

CPD Bangor ddim am herio'r penderfyniad i wrthod trwydded

  • Cyhoeddwyd
CPD Bangor

Mae Clwb P锚l-droed Dinas Bangor wedi cadarnhau na fydden nhw'n herio penderfyniad y Gymdeithas B锚l-droed i wrthod trwydded fyddai ei angen i chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Daeth penderfyniad ym mis Ebrill y byddai'r clwb yn disgyn o'r gynghrair am y tro cyntaf erioed wedi iddyn nhw fethu yn eu hap锚l am drwydded ddomestig.

Fe wnaeth y clwb orffen yn ail yn yr Uwch Gynghrair ar 么l trechu'r Bala yng ng锚m ola'r tymor.

Roedd y clwb wedi dweud yn wreiddiol eu bod yn "trafod gyda chynrychiolwyr cyfreithiol i herio'r penderfyniad".

Yn 么l y clwb, y rheswm gafodd ei roi dros fethu'r drwydded oedd problemau gyda'u gwybodaeth a'u datganiadau ariannol.

Ffynhonnell y llun, Clwb P锚l-droed Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r clwb yn chwilio am d卯m rheoli newydd ar 么l i Kevin Nicholson a Gary Taylor-Fletcher adael

Mewn datganiad ar wefan swyddogol y clwb, maen nhw'n dweud gallai'r gost gyfreithiol adael y clwb mewn "sefyllfa beryglus" a chael effaith ar ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair yn syth y tymor nesaf.

"Ar 么l derbyn cyngor cyfreithiol, fe allai cyfarwyddwyr Bangor gadarnhau nad oedd sicrwydd y byddai'r achos yn llwyddiannus," meddai'r datganiad.

"Mae t卯m newydd o gyfrifwyr wedi cael eu penodi i sicrhau na fydd y sefyllfa yma yn digwydd eto, a bydd y drwydded yn cael ei chaniat谩u'r tymor nesaf.

"Bydd gan CPD Bangor gyllideb mewn lle i gystadlu ar frig Cynghrair Undebol Huws Gray y tymor nesaf yn ogystal 芒'r cwpanau."

Roedd disgwyl i'r clwb gyhoeddi eu rheolwr newydd mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Iau, ar 么l i Kevin Nicholson a Gary Taylor-Fletcher adael y clwb.

Ond mae datganiad ar wefan y clwb yn dweud fod y gynhadledd wedi'i gohirio tan 23 Mai.