Bethesda, The Charlatans a'r Gymraeg

Disgrifiad o'r llun, Mae Tim Burgess, prif leisydd The Charlatans, yn "meddwl bod yr iaith Gymraeg yn ffantastig"

"Y llefydd cynta' i seinio fyny oedd Buenos Aires, Barcelona a Bethesda."

Pan fydd y band byd-enwog The Charlatans yn perfformio yn Northwich nos Wener, 18 Mai, fe fyddan nhw'n ffrydio'r gig yn fyw i ddwsinau o lefydd ledled y byd.

Yn eu plith fydd Neuadd Ogwen ym Methesda, lle fydd cyfle hefyd i weld perfformiad yn fyw yn y neuadd gan y band lleol, Yucatan.

Mae Tim Burgess, prif leisydd The Charlatans, wedi bod yn ffan o Yucatan - a'r Gymraeg - ers rhai blynyddoedd bellach.

"Yn 2014 'aru rheolwr Tim Burgess gysylltu efo fi - o'n i'n cerddad lawr stryd yn Bethesda ar y pryd," meddai Dilwyn Llwyd, prif leisydd Yucatan a rheolwr Neuadd Ogwen.

"'Aru fo basio'r ffôn i Tim a dyma fo'n d'eud ei fod o'n really licio stwff ni a gofyn i ni munud ola' os oeddan ni'n gallu chwara' Gŵyl Rhif 6 [ym Mhortmeirion].

"'Aru ni ond chwara' cwpl o ganeuon achos yn amlwg oedd o wedi gwasgu ni fewn. Ond dyma fo'n cael ni fewn i amball i ŵyl arall fel Isle of Wight Festival, Kendall Calling, Sound City - a 'da ni wedi 'neud Rhif 6 bob blwyddyn ers hynna.

"'Da ni wedi syportio nhw ddwywaith yng Nghaerdydd hefyd. Maen nhw'n gefnogol iawn i ni."

Ffynhonnell y llun, Yucatan

Disgrifiad o'r llun, Mae Yucatan, gyda Dilwyn ar y chwith, yn rhyddhau miwsig ers 2007

Yn ôl Dilwyn, mae'r Charlatans yn "llawn syniada'", ac un o'r rheiny oedd ffrydio gig byw yn eu tref genedigol, Northwich, i leoliadau ar draws y byd.

"Dyma nhw'n cysylltu efo fi a gofyn i ni i gefnogi ar y noson," meddai. "Y llefydd cynta' i seinio fyny oedd Buenos Aires, Barcelona, a Bethesda! Erbyn hyn mae 'na lwyth o lefydd yn 'neud."

Mae Tim Burgess ei hun yn ymwelydd cyson i Å´yl Rhif 6 ers blynyddoedd bellach, ac mae'n annog pobl i fynychu gwersi Cymraeg mewn pabell mae'n rhedeg yno'n flynyddol:

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

"Mae o jysd yn cymryd diddordeb yn y Gymraeg, mae o'n meddwl bod o'n grêt bod o'n bodoli," eglurai Dilwyn.

"Mae o'n chwilio am ffyrdd gwahanol, diddorol o 'neud petha' a ma' nhw'n meddwl bod yr iaith Gymraeg yn ffantastig."

Noson er cof am gyn-aelod

Bydd nos Wener yn achlysur teimladwy i aelodau Yucatan.

Bydd holl elw'r noson yn mynd tuag at gronfa gafodd ei sefydlu er cof am aelod o'r band, fu farw'n sydyn yn gynharach eleni.

"Doeddan ni ddim yn gw'bod be' oeddan ni isio 'neud [ar ôl marwolaeth Iwan] ond mae o'n 'neud ni'n fwy penderfynol o 'neud petha'n well achos fysa Iwan ddim yn hapus os fysa ni'n stopio," meddai Dilwyn.

"Os yda ni'n gallu 'neud rwbath positif yn enw Iwan yna dyna be' 'da ni am ei 'neud."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Yn dilyn marwolaeth Iwan Huws, cafodd teyrngedau eu rhoi i "berson arbennig oedd yn gerddor, yn anturiaethwr, yn ffrind i bawb"