Hunanladdiadau: 'Angen mwy o gefnogaeth' i fyfyrwyr bregus

Mae un o brif ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru wedi dweud y gellid gwneud mwy i gefnogi myfyrwyr bregus allai fod yn meddwl am hunanladdiad.

Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ddaeth i law rhaglen Wales Live 大象传媒 Cymru yn dangos fod 12 myfyriwr wedi lladd eu hunain yng Nghymru yn 2016.

Dyma'r nifer uchaf mewn 15 mlynedd.

Yn 么l Universities UK mae'r nifer o fyfyrwyr sydd angen cymorth gyda materion yn ymwneud ag iechyd meddwl wedi codi.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Athro Ann John fod angen buddsoddi ar yr un lefel a fu i mewn i broblemau corfforol

'Newid mawr'

Dywedodd cadeirydd y gr诺p sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiadau, Yr Athro Ann John: "Mae mynd i brifysgol yn newid mawr. Mae'n rhaid i ni gefnogi pobl ifanc.

"Mae'n rhaid bod 'na nifer o wasanaethau ar gael, ar lein, systemau cefnogi cyfoedion, dwi'n credu bod llawer y gallwn ni wneud."

Ychwanegodd: "Fe fydd hyn yn golygu buddsoddi ar yr un lefel a fu o ran buddsoddiad i broblemau corfforol. Mae angen buddsoddi adnoddau i broblemau iechyd meddwl pobl ifanc, achos os allwn ni ddelio gyda phethau pan mae pobl yn ifanc, fe allwn ni eu helpu oddi ar y llwybr yna."

Mae hyn yn dod wrth i deulu myfyriwr wnaeth ladd ei hun dri mis yn 么l siarad am y pwysau oedd arno.

Roedd Max Easey yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.

Fe ddechreuodd y g诺r 21 oed o'r Hendy ger Abertawe ar gwrs Astudiaethau Busnes ar 么l i anaf ei atal rhag dilyn gyrfa fel chwaraewr rygbi proffesiynol.

Bu'n dioddef o iselder yn fuan wedyn, ond doedd ei rieni ddim yn ymwybodol o hyn.

Dywedodd ei dad Nick Easey: "Roedd hwn yn gyfeiriad hollol wahanol iddo, y math o iaith oedd yn cael ei ddefnyddio, y cwrs, y pethau oedd yn cael ei drafod, gan ei gymryd i ffwrdd o'r byd chwaraeon, o'r codi pwysau a'r diodydd protein.

"Roedd e yn aros am fisoedd am fenthyciad myfyrwyr i gael ei dalu iddo.

"Roedd e yn disgwyl y benthyciad yn wreiddiol ym mis Tachwedd, ond ddaeth hwnnw ddim tan ddiwedd Ionawr, dechrau mis Chwefror, ac roedd e mewn twll ariannol dros y Nadolig. Roedd hyn yn pwyso arno fe, pryd mae'n mynd i ddod, pryd mae'n mynd i ddod."

Yn gynharach y mis yma fe rybuddiodd Universities UK fod perygl y caiff cenhedlaeth eu "methu" os nad oedd yna welliannau mewn gofal iechyd meddwl i fyfyrwyr.

Ffynhonnell y llun, Prifysgolion Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru eu bod yn ceisio sicrhau'r gefnogaeth ariannol ddigonol

Yn 么l cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson,

"Mae Prifysgolion Cymru wedi eu hymrwymo i ddeall ac ymateb i'r pwysau sydd yn wynebu myfyrwyr yn y cyfnod o newid a'r cyfnod wedyn yn y brifysgol. Fel rhan o hyn rydym ni yn ceisio sicrhau fod y gefnogaeth ddigonol ar gael, gan gynnwys cefnogaeth iechyd meddwl."

"Gall Prifysgolion ddim wynebu'r holl heriau yma ar ben eu hunain. Fe fyddwn ni yn parhau i weithio gyda rhieni, ysgolion, cyflogwyr a gwasanaeth iechyd Cymru i gydlynu gwasanaethau."

Mae ffigurau'r ONS yn dangos fod 146 o fyfyrwyr llawn amser dros 18 oed wedi lladd eu hunain yn y Deyrnas Unedig yn 2016, 134 oedd y ffigwr yn y flwyddyn flaenorol.

Fe allai'r newid yn y ffigwr fod oherwydd newid yn y niferoedd sy'n astudio o flwyddyn i flwyddyn yn 么l yr ONS.

Dyletswydd ar brifysgolion

Mae rhaglen Wales Live yn deall y bydd ffordd o fesur y peryglon sydd yna o hunanladdiadau gan fyfyrwyr yn cael ei gyhoeddi o fewn y misoedd nesaf.

Dywedodd Darpar Lywydd NUS Cymru Gwyneth Sweatman: "Mae angen i brifysgolion wneud mwy. Mae angen gwell ariannu ar wasanaethau i fyfyrwyr. Mae gan y prifysgolion ddyletswydd i sicrhau fod eu myfyrwyr yn iawn."

Fe fydd un brifysgol o Gymru yn treialu ffordd newydd o geisio lleihau'r pwysau sydd ar fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, tra'u bod nhw yn ceisio dod i arfer a byw oddi cartref.

Mae'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i roi marciau i fyfyrwyr ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf, gan ganolbwyntio'n hytrach ar roi cyngor i'r myfyrwyr.

Daw hyn ar 么l cynnydd yn y galw am wasanaethau cefnogol.

Dywedodd pennaeth gwasanaethau myfyrwyr, Brian Weir: "Dwi yn meddwl fod 'na bwysau mawr ar fyfyrwyr heddiw i lwyddo, ac mae nifer o ffactorau yn rhan o hyn.

"Mae myfyrwyr yn buddsoddi yn drwm, a'r pwysau i lwyddo, a'r pwysau i wireddu uchelgais yn golygu fod pobl yn ymdrechu at lwyddo, hyn i gyd ynghlwm a'r degau o filoedd o bunnoedd sy'n cael ei fuddsoddi ganddyn nhw i wneud hyn.

"Ar ddau o'n cyrsiau ni, actio a pherfformio, fe fyddwn ni yn treialu tynnu'r canlyniad o'r drafodaeth gyda'r myfyrwyr ac fe fyddwn ni yn siarad mwy gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb."

Fe allwch chi weld mwy ar y stori ar Wales Live ar 大象传媒 1 Cymru nos Fercher am 22:30.

Os ydych yn dioddef yn emosiynol ac am gael manylion sefydliadau all gynnig cyngor a chefnogaeth ffoniwch 0800 066 066 (galwad am ddim) i gael gwybodaeth neu cliciwch yma.