Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Codi t欧 unnos Cymreig
Mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth wedi bod yn gwthio ffiniau adeiladu tai cynaliadwy ers ei sefydlu yn 1973.
Ond nos Fawrth, 22 Mai, roedd y Ganolfan yn destun arbrawf oedd yn cyfuno adeiladu cynaliadwy a hen draddodiad Cymreig.
Ar raglen George Clarke's Amazing Spaces ar Channel 4, wnaeth t卯m adeiladu'r rhaglen, gyda chymorth rhai o gyfeillion y Ganolfan a chrefftwyr lleol, geisio ail greu hen draddodiad y t欧 unnos ar safle'r Ganolfan yn hen chwarel lechen Llwyngwern.
Yn 么l yr hen draddodiad, os roeddech yn medru adeiladu t欧 gyda phedwar wal, to a th芒n yn llosgi yn y gr芒t mewn llai na diwrnod, yna roedd y t欧 a'r tir lle'r oedd y t欧'n sefyll yn berchen i chi.
Mae'r pren ar gyfer prif ffr芒m y t欧 wedi cyrraedd y safle - y cyfan o ffynhonnell leol wrth reswm.
Weithiau mae'r hen draddodiadau yn gorfod plygu i draddodiadau newydd yr hi-viz a hetiau caled.
Gwell mesur dwywaith a thorri unwaith.
Mae'n anodd gweithio gyda rhywun yn eich gwylio'n ddiddiwedd.
Ar 么l diwrnod, a noson galed a gwlyb iawn, llwyddodd y t卯m adeiladu i orffen y t欧, a hyd yn oed llwyddo i roi carthen ar y gwely.
Ac yn 么l canllawiau'r traddodiad, roedd rhaid cael t芒n yn y gr芒t a mwg yn codi o'r simne.
Mae'r cyfan wedi gorffen... amser am lun o'r t卯m i gofio.
A dyma'r t欧 unnos yn ei gynefin, ac mae bellach ar agor i'r cyhoedd yn y Ganolfan ym Machynlleth.
Orielau eraill ar Cymru Fyw: