大象传媒

Trafod gwahardd ysmygu ar gaeau chwarae a thir ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysog Charles
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arwydd y tu allan i Ysbyty Tywysog Charles Hospital ym Merthyr Tudful

Mae ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i diroedd ysbytai, ysgolion a chaeau chwarae yng Nghymru gam yn agosach.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi lansio ymgynghoriad ar gryfhau'r ddeddf sy'n ymwneud ag ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Byddai addasu'r ddeddf yn golygu y bydd cleifion ac ymwelwyr yn gorfod gadael tir yr ysbyty er mwyn ysmygu yn y dyfodol.

Fe fydd hefyd yn cryfhau'r gwaharddiadau gwirfoddol sydd mewn lle ar hyn o bryd ar diroedd ysgolion a chaeau chwarae cyhoeddus.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i lunio'r ddeddfwriaeth derfynol, gyda'r gobaith y bydd y gwaharddiad mewn lle erbyn haf 2019.

Newidiadau ychwanegol

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am y farn am gyflwyno newidiadau ychwanegol i'r gwaharddiad ysmygu presennol ddaeth i rym yn 2007.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gosod cyfyngiad amser ar yr hawl i ddynodi ystafell ar gyfer ysmygu mewn unedau iechyd meddwl. Byddai hyn yn caniat谩u i reolwyr symud tuag at ddileu lleoliadau ysmygu dan do a dynodi ardaloedd tu allan yn eu lle;

  • Gosod cyfyngiad amser tebyg ar yr hawl i ddynodi ystafelloedd mewn gwestai, tafarndai a chlybiau fel rhai i ysmygwyr.

Bydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 gafodd ei basio gan ACau y llynedd.

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus o'r farn fod ysmygu'n gyfrifol am fwy na 5,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, a thua un o bob chwech o farwolaethau pobl dros 35 oed.