Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llais y Llywydd: Yr actor Richard Lynch
Mae Richard Lynch wedi bod yn adnabyddus fel un o brif actorion theatr a theledu Cymru ers dros 30 mlynedd.
Bu'n aelod blaenllaw o gwmn茂au theatr Y Cwmni, Moving Being, Brith Gof ac yn fwy diweddar National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae'n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel Garry Monk yn Pobol y Cwm, a bu hefyd yn gweithio tu hwnt i Gymru ar raglenni fel Broken a Hollow Crown i'r 大象传媒.
Mae'n un o gymrodorion Prifysgol Aberystwyth yn ogystal 芒 bod yn aelod o fwrdd rheoli National Theatre Wales.
Mae'n byw yn Aberhonddu gyda'i bartner Louise a'u plant Bethany ac Esme.
Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Un o fy atgofion cyntaf oedd pan roeddwn i yn fy arddegau, tua 15 oed, pan fues i'n rhan o Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Roedden ni'n cwrdd yng Ngwersyll Llangrannog i greu drama mewn cyfnod byr, ac yna yn ei deithio o gwmpas theatrau Cymru.
The Threepenny Opera gan Brecht oedd y cynhyrchiad, ac roedd yn gyfnod cyffrous tu hwnt.
Roedden ni i gyd yn gweithio oriau hir ond roedd yn gyfnod cyffrous, ac roedden ni'n cael gweithio efo pobl oedd ychydig yn h欧n, fel Stifyn Parri, pobl fydden i'n edrych lan atyn nhw a dysgu ganddyn nhw.
Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod
Trawstoriad o'n pobl ni yn chwarae ac yn diddanu trawstoriad arall o'n cymdeithas, tra'n cael sbort a sbri.
Yw'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?
Ydi yn ddiau. Mae budd yn dod o unrhyw gyfle pan yn ifanc i sefyll o flaen cynulleidfa a pherfformio, dysgu peth yw'r broses o wneud hynny a sut i ffocysu a delio gyda'r pwysau.
Hefyd, dysgu sut i wneud hyn dro ar 么l tro. Ddysges i lot fawr o gael bod o flaen cynulleidfa fyw o oedran ifanc.
Pa gystadleuaeth newydd hoffech chi ei gweld yn rhan o'r Eisteddfod?
Unrhyw beth sy'n ymwneud gyda'r lleiafrifoedd o fewn ein cenedl ni.
Mae pobl o dras a chrefyddau gwahanol sydd ddim yn rhan o'r brif ffrwd yn rhan o gymdeithas Cymru bellach, felly byddai cystadleuaeth sy'n ymwneud yn fwy 芒 nhw yn dda i'w weld.
Disgrifiwch ardal Brycheiniog a Maesyfed i bobl sydd erioed wedi bod yna o'r blaen
I fi, mae gymaint i'r ardal, heb s么n am ei harddwch, ac mae hynny yn arbennig. 'Mae hiraeth yn y m么r a'r mynydd maith' yn 么l R Williams Parry, ond i fi mae'r mynydd yn rhagori.
Yma mae pobl yn gyfeillgar, ac mae rhyw hudoliaeth yn perthyn i'r ardal, sydd o bosib yn mynd yn 么l at wreiddiau ein cenedl ni.
Mae teimlad yma mai dyma'n treftadaeth ni rywsut, teimlad fy mod i'n perthyn mewn modd dwfn iawn, lle arbennig.
Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Cwrdd 芒 phobl newydd o lefydd gwahanol a'r brawdgarwch sy'n dod yn sgil hynny.