Aelodau UKIP yn ymddiheuro am fideo YouTube AC

Ffynhonnell y llun, Youtube/Gareth Bennett

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Bennett wedi gwrthod ymddiheuro am y fideo

Mae tri o aelodau Cynulliad UKIP, gan gynnwys yr arweinydd, wedi ymddiheuro am fideo YouTube "di-chwaeth" gan un o ACau arall y blaid yn ymosod ar aelod o'r Blaid Lafur.

Ond mae awdur y fideo, AC Canol De Cymru Gareth Bennett, wedi gwrthod ag ymddiheuro am y clip, oedd yn beirniadu Joyce Watson am alw'r gr诺p yn "g诺n cynddeiriog".

Mae'r fideo yn cynnwys sylwadau difr茂ol am Ms Watson.

Dywedodd arweinydd gr诺p UKIP yn y Cynulliad, Caroline Jones y byddai hi'n ddig petai fideo tebyg wedi cael ei wneud amdani hi.

Ychwanegodd ei bod hi, Michelle Brown a David Rowlands wedi ymddiheuro i Ms Watson.

Y tri sydd wedi ymddiheuro oedd y tri a gefnogodd gael gwared 芒 Neil Hamilton fel arweinydd a phenodi Ms Jones yn ei le.

Disgrifiad o'r llun, Mae Joyce Watson yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y cynulliad

Dywedodd Mr Bennett bod y mater yn un sy'n tynnu sylw oddi ar faterion pwysicach, ac fe gyhuddodd y tri arall "o geisio osgoi democratiaeth pleidiol drwy sicrhau eu bod yn cael eu hailddewis yn ymgeiswyr Cynulliad yn awtomatig".

Ychwanegodd wrth 大象传媒 Cymru nad yw'n bwriadu ymddiheuro.

Mae cais wedi cael ei wneud i'r Blaid Lafur ac i Joyce Watson i ymateb.

Fe alwodd Ms Watson, sy'n aelod mainc gefn Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, aelodau cynulliad UKIP yn "g诺n cynddeiriog" yn ystod trafodaeth gan y blaid ar ostwng y gyllideb cymorth tramor ym mis Mai 2017.

Mae'r sylwadau yn cydredeg 芒 llun llonydd o Ms Watson sydd wedi'i osod ar lun o fenyw yn gweithio mewn bar.

'Ddim yn iawn'

Dywedodd Ms Jones: "Ni fyddwn yn disgwyl i rywun wneud fideo ohono i fel yna. Fe fyddwn i wedi digio."

Ond ychwanegodd bod aelodau UKIP yn flin eu bod wedi cael eu galw yn g诺n cynddeiriog.

"Dyw hynna hefyd ddim yn iawn," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae David Rowlands wedi galw'r fideo yn "ddi-chwaeth"

Dywedodd Mr Rowlands wrth gael ei holi gan 大象传媒 Cymru: "Dyw ddim yn rhywbeth y byddwn i wedi'i gyhoeddi.

"Mae pobl yn rhyddhau fideos, mae'n amlwg, ry'n ni'n gwneud gan nad oes gennym ni chwip yn y blaid, ond gan ei fod yn ddadleuol mi fydden wedi hoffi gweld ei gynnwys o flaen llaw."