Galw ar Gyngor Powys i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn pwyso ar Gyngor Powys i gydio yn y cyfle i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir yn dilyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd.
Yn ol RhAG, mae ymweliad Eisteddfod yr Urdd i Lanelwedd yn cynnig cyfle euraidd i adael gwaddol parhaol ar gyfer ffyniant y Gymraeg yn y sir.
Dywedodd Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, Wyn Williams fod "angen dybryd i ymestyn y Gymraeg i bob rhan o'r sir".
"Mae gormod o ardaloedd heb addysg Gymraeg o gwbwl ac mae angen unioni'r cam hwnnw."
Mae Cyngor Powys wedi cael cais am ymateb.
'Galw cynyddol'
Ychwanegodd Mr Williams: "Bydd ehangu'r ddarpariaeth, trwy sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn torri'r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol 芒 disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd a chyfrannu at y nod o gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn erbyn 2050.
Ym Medi 2017 fe agorwyd ysgol Gymraeg newydd yn Y Trallwng, ac mae RHaG yn credu bod y "galw cynnyddol" am addysg Gymraeg a bod "llwyddiant digamsyniol Ysgol Dafydd Llwyd, yn y Drenewydd" yn brawf o hynny.
Mae Cyngor Powys eisoes wedi cadarnhau na fydd ffrwd Saesneg Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn cau wedi cyfarfod o'r llywodraethwyr.
Yn ddiweddar fe dderbyniodd rhieni'r ysgol lythyr i ddweud bod y llywodraethwyr wedi cytuno mewn egwyddor i gau'r ffrwd i ddisgyblion newydd.
Mae'r ysgol yn bwriadu gofyn i Gyngor Powys gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gyda phobl leol yngl欧n 芒 beth fydden nhw'n hoffi gweld yn digwydd yn y dyfodol.
Ychwanegodd Mr Williams: "Galwn ar y Cyngor i gofleidio gweledigaeth bellgyrhaeddol ar gyfer twf Addysg Gymraeg ac ar gyfer dyfodol hirdymor yr iaith Gymraeg yn y Sir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd4 Medi 2017
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2017