'Casineb tuag at ferched ar ei waethaf' medd Leanne Wood

Disgrifiad o'r llun, Roedd Leanne Wood yn ran o banel oedd yn trafod merched mewn p诺er yng Ng诺yl y Gelli.

Mae casineb a sarhad tuag at fenywod ar ei waethaf, yn 么l arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.

Fe wnaeth Ms Wood y sylwadau wrth siarad yngl欧n 芒 merched mewn p诺er yng Ng诺yl y Gelli.

Dywedodd fod gan ferched "gyfrifoldeb" i godi llais ynghylch unrhyw ymddygiad tebyg tuag at ferched ar-lein.

Mae "adlach" wedi bod yn erbyn ffeministiaeth, meddai, sydd wedi sbarduno sylwadau sarhaus ar-lein tuag am ferched adnabyddus.

"Rwy'n gweld mwy o gasineb tuag at ferched nawr na dwi erioed wedi gweld yn fy oes fel gwleidydd.

"Mae'n ymddangos ei fod yn ffenomena heddiw. Mae'n ymddangos ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae'n ymddangos i adlewyrchu rhywbeth arall sydd yn mynd ymlaen mewn cymdeithas," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Si芒n James yn AS dros Ddwyrain Abertawe tan 2015

Roedd Ymddiriedolwr gyda Cymorth i Ferched Cymru a'r cyn-AS, Si芒n James ar raglen y Post Cyntaf fore Mawrth pan ofynnwyd iddi am ei hymateb i sylwadau Ms Wood.

Dywedodd Ms James: "Os nad ydych chi'n ddyn sy'n gwisgo siwt, mi rydych dan anfantais ar unwaith yn San Steffan.

"Dyna beth sydd wedi bod yn gweithredu ers canrifoedd yn Llundain, fod rhyw fath o ddyn arbennig yn cael yr hawl i fynd i San Steffan."

Rhaid 'amddiffyn dioddefwyr'

Roedd Si芒n James yn AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe rhwng 2005 a 2015.

Fe ddisgrifiodd y math o ddynion sy'n San Steffan fel rhai "oedd yn dod o gefndir arbennig, o class arbennig, ac mae rhaid i ni fel menywod ymladd yn galed iawn, pobl fel Leanne, Kirsty Williams, minnau".

Ychwanegodd Ms Wood fod rhai o'r bobl oedd yn gyfrifol am ei sarhau ar-lein wedi cael eu carcharu, ac mae hi'n galw ar fwy o ferched i gynorthwyo'r rheiny sy'n derbyn yr un fath o gamdriniaeth ar-lein.

Dylai merched sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol "amddiffyn dioddefwyr o gasineb tuag at ferched ac aflonyddu," meddai.

Dywedodd Si芒n James ei bod wedi cael ei thrin yn yr un modd tra'n AS, gan ychwanegu fod "rhaid gwneud yn si诺r fod lleisiau menywod yn cael eu clywed".