Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dementia ymhlith cyn-b锚l-droedwyr yn 'broblem fawr'
Mae seiciatrydd o dde Cymru wedi cyhuddo'r awdurdodau p锚l-droed o anwybyddu'r cysylltiad posib rhwng chwarae'r g锚m a datblygu dementia.
Dechreuodd Dr Don Williams astudio achosion o ddementia ymhlith cyn-chwaraewyr yn yr 80au, ac ers hynny mae wedi ymgyrchu i ddod 芒 sylw ehangach i'r mater.
Yn 么l Dr Williams does "dim amheuaeth fod yna broblem fawr" yn bodoli.
Dywed y Gymdeithas B锚l-droed (FA) fod yr ymchwil hyd yma yn amhendant, ond eu bod yn benderfynol o ddeall y peryglon posib yn llawn.
Diwedd penio'r b锚l?
Mae Dr Williams o'r farn y dylai plant yng Nghymru roi'r gorau i benio'r b锚l, gan na ddylai'r ymennydd fod yn derbyn trawma o'r fath yn gyson.
Dechreuodd y meddyg o Abertawe ymchwilio i ddementia mewn chwaraewyr ar 么l i fab un o'i cyn-gleifion holi os oedd cysylltiad posib rhwng cyflwr ei dad, a'i gefndir fel p锚l-droediwr.
Mae'r astudiaethau ers hynny wedi cynnwys monitro 14 cyn-chwaraewr gyda dementia, a chyhoeddi adroddiad gyda'r darganfyddiadau.
Dywedodd Dr Williams: "Dylai'r cyhoedd wybod fod yna risg, a bod yna broblem yn bodoli."
Ychwanegodd: "Does neb yn credu y byddai taro ff么n symudol yn rheolaidd ddim yn niweidio'r ff么n, a dwi'n meddwl fod yr un peth yn gorfod bod yn wir am yr ymennydd."
'Ddim yn gwneud digon'
Mae'r Cymro Wyn Davies yn gyn-chwaraewr p锚l-droed proffesiynol sydd hefyd yn galw am fwy o ymchwil gan awdurdodau'r g锚m.
Fe gynrychiolodd Davies ei wlad 34 o weithiau yn ystod ei yrfa, wrth serennu i rai o glybiau mwyaf adnabyddus y g锚m gan gynnwys Manchester United, Newcastle a Manchester City.
Dywedodd Davies mai'r broblem yw bod yna dal ddim tystiolaeth o'r cysylltiad rhwng penio'r b锚l a dementia.
Mae'n cydnabod ei bod hi'n anodd dweud os mai cyd-ddigwyddiad yw'r achosion hyn o'r salwch, ynteu rhywbeth ehangach, ond mae'n erfyn ar yr awdurdodau i wneud mwy o ymchwil.
Er fod Davies yn poeni am iechyd chwaraewyr ifanc, oherwydd yr ansicrwydd presennol, dydy o ddim yn cefnogi rhwystro plant rhag penio'r b锚l yn gyfan gwbl ar hyn o bryd gan ei fod yn "ran o'r g锚m".
'Canlyniadau amhendant'
Mae astudiaeth newydd ar y cysylltiad rhwng penio'r b锚l a niwed i'r ymennydd eisoes wedi dechrau yn gynharach eleni.
Cymdeithas y P锚l-droedwyr Proffesiynol (PFA) sydd yn gyfrifol am ariannu'r astudiaeth, ar y cyd gyda'r FA.
Ar 么l datgan fod darganfyddiadau astudiaethau blaenorol yn annigonol, cadarnhaodd y gymdeithas mai'r astudiaeth nesaf fydd un o'r rhai mwyaf cynhwysfawr i gael eu comisiynu yn y maes.
Yn 么l llefarydd ar ran y PFA mae'r undeb eisoes yn darparu cyngor a chefnogaeth i gyn-chwaraewyr sy'n dioddef o'r cyflwr hwn a phroblemau iechyd eraill.
Dywedodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru fod iechyd hir dymor chwaraewyr p锚l-droed o'r pwys mwyaf.
Mae'r gymdeithas yn cydfynd 芒'r consensws fod darganfyddiadau astudiaethau yn amhendant hyd yn hyn, a bod angen ymchwilio ymhellach er mwyn cryfhau dealltwriaeth.
Bydd Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn cyhoeddi canllawiau eu hunain ar sut i ddelio 芒 chyfergyd, a fydd ar gael i holl glybiau Cymru cyn dechrau tymor nesaf.il.