Ambiwlans: 'Delio mwy 芒 hunan-niweidio na thrawiadau'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael eu galw i "lawer mwy" o achosion o hunan-niweidio nag achosion o drawiadau neu anafiadau difrifol.

Yn 么l y ffigyrau, mae nifer y bobl sy'n marw o hunanladdiad yng Nghymru bedair gwaith yn fwy na'r rheiny sy'n cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ffordd.

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Cynulliad, dywedodd y gwasanaeth bod angen rhagor o hyfforddiant ar staff ambiwlans i allu delio ag achosion o'r fath.

Dywedodd Network Rail wrth yr un pwyllgor bod bron i 5% o hunanladdiadau bob blwyddyn yn digwydd ar y rhwydwaith drenau.

'Hyfforddiant'

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig cyn i'r pwyllgor drafod y mater ddydd Iau, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bod "delio 芒 chleifion gyda phroblemau iechyd meddwl yn gofyn am sgiliau penodol iawn".

Mae gwaith ymchwil diweddar gan y gwasanaeth wedi canfod:

  • Bod tua 5% o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans yn ymwneud 芒 hunan-niweidio, ffigwr "llawer uwch na galwadau i anafiadau difrifol a thrawiadau gyda'i gilydd";
  • Bod un o bob 100 person sydd yn mynd i'r ysbyty oherwydd hunan-niweidio yn marw o hunanladdiad o fewn blwyddyn, a 5% o fewn degawd;
  • Bod ceisio defnyddio sg么r amcangyfrif risg o hunanladdiad, fel sy'n digwydd mewn rhai asesiadau, yn "wastraff adnoddau";
  • Bod rhai unigolion yn osgoi defnyddio gwasnaethau rhag ofn iddyn nhw gael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Disgrifiad o'r llun, Mae parafeddygon angen hyfforddiant gwahanol i ddelio 芒 hunan-niweidio o'i gymharu ag anafiadau eraill

Yn eu casgliadau, mae'r gwasanaeth ambiwlans yn dweud eu bod "yn ymateb i nifer uchel o bobl sy'n hunan-niweidio neu sy'n ystyried hunanladdiad, ac felly ei bod yn hanfodol wrth wella gofal ac atal hunanladdiad".

"Mae angen datblygu addysg a hyfforddiant aml-broffesiynol wedi'i deilwra i'r cyd-destun iawn ar gyfer staff ambiwlans er mwyn iddyn nhw gael gwell dealltwriaeth o hunan-niweidio, atal hunanladdiad, a gwella cymhwysedd a hyder," meddai'r gwasanaeth.

Ychwanegodd y dystiolaeth y dylid ailedrych ar y gefnogaeth sydd ar gael i staff ambiwlans sydd yn gofalu am y bobl fregus hynny.

'Tu hwnt i'n gallu'

Yn eu tystiolaeth hwythau i'r pwyllgor, dywedodd Network Rail fod hunanladdiadau ar y rhwydwaith drenau yn y DU yn costio cyfartaledd o 拢230,000 bob tro, ac yn achosi dros 36 awr o oedi i wahanol wasanaethau.

Roedd staff oedd yn dyst i ddigwyddiad o'r fath hefyd yn treulio cyfartaledd o 29 diwrnod o'r gwaith, gyda'r trawma yn golygu bod rhai "byth yn dychwelyd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Network Rail mae cyfartaledd o 262 hunanladdiad y flwyddyn ar reilffyrdd y DU

Dywedodd yr asiantaeth fod marwolaethau ar y rhwydwaith drenau yn "drychinebus", a bod y diwydiant wedi cymryd nifer o gamau gan gynnwys codi ffensys ac arwyddion er mwyn "ceisio dylanwadu" ar unigolion oedd yn ystyried hunanladdiad.

Ond ychwanegodd Network Rail bod hunanladdiad yn broblem oedd "tu hwnt i allu'n diwydiant ni i'w datrys".

Yn hytrach, medden nhw, mae angen cymryd camau megis darparu rhagor o hyfforddiant i staff y sector iechyd, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.

Mae gwybodaeth o sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl ar gael ar bbc.co.uk/actionline, neu gallwch ffonio am ddim unrhyw bryd i glywed gwybodaeth wedi'i recordio ar 08000 564 756.