Trafod 'amheuon' am ddyfodol meddygfa Glantwymyn, Powys

Mae pryder y bydd meddygfa wledig yn cau yn sgil buddsoddiad mewn canolfan fwy wedi ei drafod mewn cyfarfod cyhoeddus.

Daeth tua 50 i'r cyfarfod i drafod pryderon am ddyfodol Canolfan Iechyd Glantwymyn, Powys lle mae'r oriau agor wedi eu cwtogi i dri diwrnod.

Daw yn dilyn cyhoeddiad bod Canolfan Iechyd Machynlleth yn un o'r ardaloedd fydd yn cael rhan o fuddsoddiad gwerth 拢68m.

Y pryder yw y bydd y buddsoddiad yn gweld canolfannau cyfagos, fel Glantwymyn, yn cau.

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod trafferth recriwtio yn gyfrifol am yr oriau newydd, ac y bydd y sefyllfa'n cael ei fonitro.

Diffyg cyfathrebu

Mae Canolfan Iechyd Glantwymyn yn gwasanaethu'r ardaloedd rhwng Llanbrynmair, Dinas Mawddwy a Machynlleth.

Yn byw yn Ninas Mawddwy, mae Elwyn Jones yn teithio oddeutu 12 milltir i Glantwymyn.

Byddai cau yn golygu teithio 20 milltir, i Fachynlleth, i gael gweld meddyg teulu.

"Maen bwysig iawn i drigolion Dinas Mawddwy. Mae'n rhy bell i fynd i feddygfa os ydych chi'n gorfod teithio hanner awr.

"Mae'r diffyg cyfathrebu o ran y bwrdd iechyd yn siomedig iawn. Os nad ydyn nhw'n dweud wrthom ni bod yr oriau agor yn newid, dwi'n poeni pa newidiadau eraill sydd ar y ffordd."

Cyngor Cymuned Glantwymyn drefnodd y cyfarfod, a dywedodd y cynghorydd cymuned, Elwyn Vaughan: "Mae'r feddygfa ym Machynlleth o dan yr un adain, ac wedi ei uno gyda Glantwymyn yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.

"Yr amheuaeth sydd gyda ni, yn sgil y cwtogi a chanoli staff i Fachynlleth - y bydd hynny yn esgus yn y pendraw i yrru popeth i'r dref."

Ychwanegodd: "Byddai symud pawb i Fachynlleth eto fyth yn gweld ardal eang wledig ym Mhowys yn colli gwasanaethau."

'Heriau recriwtio'

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dweud y byddant yn asesu oriau agor y feddygfa eto ym mis Medi, a bod yr oriau newydd yn sgil problemau recriwtio meddygon teulu.

Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd eu bod yn parhau a'u hymdrechion recriwtio: "Mae yna heriau i recriwtio meddygon teulu ledled y DU ac mae'r rhain i'w teimlo yn arbennig yng nghefn gwlad Cymru.

"Fel arfer, byddai gan y ganolfan bum meddyg teulu. Ar hyn o bryd, tri meddyg teulu sy'n cael eu cyflogi.

"Rydym yn rhannu dyheadau'r bobl leol ac yn gobeithio y bydd ateb parhaol i'r newidiadau dros dro hyn.

"Rydym ni yn ymddiheuro am yr anghyfleustra, ac yn gobeithio parhau i ddatblygu gwasanaethau ardal Dyffryn Dyfi yn ehangach. "