Merched Cymru 1-0 Bosnia-Herzegovina

Disgrifiad o'r fideo, Uchafbwyntiau: Cymru 1-0 Bosnia-Herzegovina

Mae t卯m p锚l-droed merched Cymru ar frig Gr诺p A yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn Stadiwm Liberty.

Mewn g锚m ble roedd Cymru'n llwyr reoli'r chwarae, dim ond un g么l lwyddodd y cochion sgorio ar 么l sawl cyfle i ymestyn eu mantais.

Roedd cyfraniad Jess Fishlock i Gymru yn arbennig gyda'i chwarae creadigol.

Bu bron i Fishlock roi Cymru ar y blaen ychydig eiliadau cyn yr hanner ar 么l rhediad gwych o ganol y cae, ond llwyddodd Hasanbegovic i arbed yn dda yn y g么l i'r ymwelwyr.

Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda Chymru yn pwyso am y g么l agoriadol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Fe fethodd Helen Ward gyfle euraidd o'r smotyn i roi Cymru ar y blaen

Fe ddylai Helen Ward fod wedi sgorio ar 么l 54 munud o'r smotyn.

Roedd y gic yn syth lawr canol y g么l ac roedd yr arbediad yn un hawdd i Hasanbegovic.

Saith munud yn ddiweddarach llwyddodd Kayleigh Green i roi'r b锚l yn y rhwyd ar 么l amddiffyn gwael gan Bosnia.

Llwyddodd Cymru i barhau i bwyso ond ni ddaeth ail g么l o'r noson.

Roedd dathliadau ar fainc Cymru wedi'r chwiban olaf wrth i ferched Jayne Ludlow gymryd cam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd yn Ffrainc yn 2019.

Gyda dwy g锚m yn weddill, bydd Cymru yn wynebu Rwsia yng Nghasnewydd ar 12 Mehefin cyn croesawu Lloegr yn eu g锚m olaf ddiwedd mis Awst.