Disgwyl cyhoeddiad am gynllun morlyn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae 大象传媒 Cymru ar ddeall bod disgwyl cyhoeddiad ar gynllun 拢1.3bn morlyn llanw Bae Abertawe ddydd Mercher.
Mae'r prosiect wedi derbyn cefnogaeth adolygiad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU yn 2017, ond mae gweinidogion wedi dweud bod yn rhaid i'r cynllun gynnig gwerth am arian cyhoeddus.
Mae'r prif weinidog Carwyn Jones wedi cynnig 拢200m o arian Llywodraeth Cymru i helpu gwireddu'r cynllun, yn dilyn adroddiadau ei fod am gael ei wrthod.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi mynegi pryder am y gost, gan ddweud bod "y ffigyrau yn ofnadwy".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018