大象传媒

O Bennant i Ohio?

  • Cyhoeddwyd
Arwydd yn Ohio

Am un wythnos yn Aberaeron bydd dwy gymuned yn dathlu taith 36 o bobl - aelodau chwe theulu - o borthladd Aberaeron i Gallia County, Ohio 200 mlynedd yn 么l.

Rhwng Mehefin 22 a 30, bydd tua 50 o ddisgynyddion y rhai gwreiddiol a'r miloedd aeth ar eu holau yn dychwelyd er mwyn dathlu nid yn unig y daith wreiddiol, ond y gymuned Gymreig gref a gafodd ei sefydlu yn Ohio gan y mudwyr cyntaf.... cymuned Gymreig a dyfodd i ryw 4,000-5,000, sydd 芒 phresenoldeb cryf yn yr ardal hyd heddiw.

Bu Cymru Fyw'n sgwrsio gydag Arwel Jones, hanesydd o Geredigion sydd wedi astudio'r wladfa fach Gymreig yn Ohio.

"Y peth yw, mae'r dafarn lle mae'r Americanwyr yn credu fod y chwe theulu gwreiddiol wedi penderfynu mynd i America, yn dafarn hollol wahanol i'r un lle gwnaethon nhw'r penderfyniad mewn gwirionedd!

Sgwrs dros beint

Yn 么l y stori, roedd John Jones, perchennog y Ship Inn ym mhentref Pennant, ger Aberaeron, yn sgwrsio gydag ambell i deulu lleol arall o gwmpas y t芒n yn y dafarn, a dyna pryd wnaethpwyd y penderfyniad i fudo i America... ond y peth yw, wrth i ni ddechrau edrych mewn i'r hanes ar gyfer llyfr Ar Hynt i Ohio, mae'n edrych yn debyg taw yn y Ship yn Llannon ddigwyddodd y cyfarfod.

Roedd mab John Jones, arweinydd y chwe theulu gwreiddiol yn cadw tafarn yn Llannon, ac felly ry' ni'n 80% yn sicr taw yn fan'ny ddechreuodd y cyfan.

Ffynhonnell y llun, Prosiect Cymru-Ohio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Ship Inn ym Mhennant cyn iddo gau... ond ai hwn oedd y man cychwyn go iawn?

Mudo oherwydd tlodi

Mae llawer yn dweud taw crefydd oedd y rheswm i'r teuluoedd benderfynu gadael Cymru, ond nid crefydd oedd y prif reswm i'r chwe theulu cyntaf.

Roedd rhyfeloedd Napleon newydd orffen, ac oherwydd y trethi uchel, roedd tlodi anhygoel yn yr ardal a chrafu bywoliaeth oedd pawb.

Hefyd, tenantiaid oedd bron pawb, doedd neb yn dirfeddianwyr, ac felly roedd y syniad o fudo i wlad lle fydden nhw'n medru bod yn berchen ar eu darn o dir eu hunain yn si诺r o apelio.

Tri mis o deithio... ac wedyn mwy!

Ond roedd y daith yn un galed... yn galed iawn. Hwylio gyntaf i Lerpwl o Aberaeron ar 1 Ebrill, 1818. Aros yn Lerpwl am ychydig wythnosau i aros am long addas a hwylio wedyn i America.

Eu cynllun gwreiddiol oedd mynd i Cincinnati ac ymuno 芒'r gymuned Gymreig oedd wedi ymfudo yn 1795 o Lanbrynmair... teulu oedd yn cynnwys perthnasau i Dafydd Wigley, gan gynnwys teulu cynnar y gangster Murray the Hump.

Ar 么l cyrraedd Chesapeake Bay, Baltimore ar 1 Orffennaf, 1818, dechreuon nhw ar eu taith hir 500 milltir, yn gyntaf ar wagenni i Pittsburg, cyn dal rafft er mwyn hwylio lawr afon Ohio i Cincinnati.

Newid i'r cynllun gwreiddiol

Ond stopiodd y teuluoedd dros nos, wedi blino'n l芒n, yn Gallia County lle'r oedd criw o Ffrancwyr wedi sefydlu rhyw fath o gymuned...a dyna lle arhoson nhw oherwydd bod eu rafftiau wedi'u chwythu'i ffwrdd mewn storm.

Does neb yn rhy sicr sut chwythodd y rafftiau i ffwrdd cofiwch. Mae rhai'n dweud taw'r Ffrancwyr wnaeth dorri'r raffiau er mwyn cadw'r Cymry yna...mae rhai'n dweud bod gwragedd y teuluoedd wedi torri'r rafftiau oherwydd doedden nhw ddim am fynd ymhellach.

Posib fyddwn ni byth yn gwybod. Ond aeth y teuluoedd ddim pellach, a dyna lle sefydlon nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cofio'r mudo: Ymgais Sioned Jones o Glwb Ffermwyr Ifanc Mydroilyn yng nghystadleuaeth grefft Rali Ceredigion eleni

Roedd bywyd yn galed iawn ar y dechrau. Roedd y tirwedd yn eithaf bryniog a choediog ac roedd yn rhaid gweithio'n galed iawn i glirio'r tir er mwyn ei baratoi.

Cafodd rhai o'r dynion gwreiddiol waith yn helpu adeiladu ffordd ac yn hwyrach, daeth y rheilffordd 芒 chyfoeth newydd a mwy o waith i'r ardal.

Bwlch cyn i'r llifddorau agor

Roedd bwlch o ryw bymtheg mlynedd rhwng y chwe theulu cyntaf yn symud 'na a'r twf nesaf, ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd tua 6,000 o Gymry wedi setlo yn ardal Ohio.

Roedd hi wedi bod gyfnod o newid mawr yng nghefn gwlad Ceredigion gyda phethau wedi gwaethygu'n fawr ers i'r teuluoedd cyntaf symud yn 1818.

Roedd rhai o'r ardal yma yng Nghymru wedi dechrau cael eu herlyn oherwydd crefydd, oedd yn ysgogiad i fudo i America.

Roedd tir yn America'n cael ei werthu am ddoler a chwarter y cyfer [erw] ac os gofiwch chi fod yna tua phum doler i'r bunt ar y pryd, wel roedd hyn yn apelio'n fawr i ffermwr tenant bach yng Ngheredigion oedd prin yn medru crafu bywoliaeth.

Hefyd, y dewisiadau eraill oedd symud i gymoedd y de i'r gweithfeydd glo a haearn, neu symud i Lundain a gwerthu llaeth... neu d诺r gwyn os gredwch chi'r straeon.

Fawr o ddewis

Felly er gwaethaf y daith hir, roedd y ffaith bod y chwe theulu gwreiddiol bellach wedi setlo a gwneud bywyd, yn anogaeth i eraill ddilyn... a dyna beth wnaethon nhw, yn eu miloedd. Mi sefydlwyd rhyw 25 o gapeli Cymraeg ar eu cyfer, sy'n rhoi syniad o'r niferoedd.

Mewn amser, daeth yr ardal i gael ei alw'n little Cardiganshire, gyda theuluoedd o glwstwr o bentrefi rhwng Aberaeron a Thregaron a lawr i Flaenplwyf ac Aberarth yn symud draw bron fel teuluoedd cyfan.

Er enghraifft, symudodd teulu'r darlledwr Huw Edwards - pedwar brawd, i gyd dros gyfnod o ryw bum mlynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

C么r Meibion Cymru Ohio yn ymarfer cyn perfformio yn y dathliadau ym mis Mehefin

Felly nawr, dau gan mlynedd yn hwyrach, mae 50 o ddisgynyddion sydd 芒 chysylltiadau 芒'r ardal yn dod yn 么l i ddathlu camp y chwe theulu wnaeth ymgymryd 芒'r daith wreiddiol hir a chaled 'na.

Ma' da fi newyddion da, a...

Dweud y gwir, rwy wedi bod mewn cyswllt gyda'r teuluoedd i weld ble maen nhw eisiau mynd, a beth maen nhw eisiau gweld.

Mae bron pawb wedi dweud fod nhw eisiau ymweld 芒'r Ship.... ond mae'r Ship ym Mhennant wedi cau ers pymtheg mlynedd a dyw'r Ship yn Llannon, sef lle ni'n credu oedd y Ship go iawn... wel mae'r adeilad wedi hen fynd!

Efallai bydd bach o waith esbonio gyda ni ond bydd rhaid mynd 芒 nhw i'r ddau le!"