Beirniadu e-bost yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am ofyn i staff rannu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad Carl Sargeant gydag uwch weision sifil yn gyntaf.
Ar hyn o bryd mae Paul Bowen QC yn ymchwilio i sut y gwnaeth Carwyn Jones ddelio 芒 chael gwared ar AC Alun a Glannau Dyfrdwy o'r cabinet.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod e-bost i staff gan uwch was sifil yn codi cwestiynau am annibyniaeth yr ymchwiliad.
Dyweodd llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol, Shan Morgan, y byddai gweision sifil yn rhoi eu cydweithrediad llawn i'r ymchwiliad.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae eu cyngor wedi cael ei ddiweddaru i wneud hi'n glir bod staff yn gallu cysylltu 芒'r ymchwiliad yn uniongyrchol.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi diweddaru eu mewnrwyd er mwyn gallu cysylltu 芒'r IQCI.
'Tystiolaeth bersonol'
Cafodd Mr Sargeant ei ddarganfod yn farw ym mis Tachwedd - pedwar diwrnod wedi iddo gael ei sacio o'r cabinet.
Mae cais wedi cael ei wneud i'r t卯m ymchwilio i ymateb i'r e-bost.
Cyn iddo farw, roedd AC Alyn a Glannau Dyfrdwy wedi wynebu ymchwiliad gan y Blaid Lafur i honiadau o "gyffwrdd anaddas ac ymddwyn yn amhriodol tuag at ferched".
Mewn e-bost at staff Llywodraeth Cymru ddoe, mae ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru yn nodi "fe ddylai'r rhai sy'n credu bod ganddynt dystiolaeth berthnasol i'r ymchwiliad ddod 芒'r dystiolaeth i sylw David Richards, y Cyfarwyddwr Llywodraethu; Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol; neu i'm swyddfa i".
Roedd e-bost Ms Morgan hefyd yn nodi dewis o ffyrdd cefnogi i staff a oedd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth Carl Sargeant.
'Cwestiynau am annibyniaeth'
Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew RT Davies bod yr e-bost "wedi codi pryderon difrifol am ymddygiad Llywodraeth Cymru ac yn gofyn cwestiynau am annibyniaeth y broses".
"Os yw'r ymchwiliad yn mynd i fod yn un cwbl annibynnol mae'n rhaid i bob elfen o'r dystiolaeth cael ei chyflwyno i'r Cwnsler sy'n arwain yr ymchwiliad," ychwanegodd.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru ymddiheuro a thynnu'r gorchymyn hwn yn 么l fel bod pobl yn medru rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad heb ofn ac heb dactegau bwlio."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae hwn yn codi cwestiynau difrifol am brosesau mewnol Llywodraeth Cymru ac yn bygwth peryglu annibyniaeth yr ymchwiliad.
"Mae'n hanfodol bod yr ymchwiliad hwn yn parhau'n annibynnol, tryloyw a theg.
"Bydd Plaid Cymru yn holi cwestiynau brys ynghylch y mater hwn."
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysgrifennydd parhaol: "Ry'n fel gwasanaeth sifil wedi dweud y byddwn yn cydweithredu'n llawn gyda gwaith y Cwnsler ac fe fydd unrhyw dystiolath gan staff sydd ar system Llywodraeth Cymru yn cael ei gasglu a'i drosglwyddo i'r ymchwiliad yn llawn heb ei olygu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018