大象传媒

Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu casglu biniau'n fisol

  • Cyhoeddwyd
biniau

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu newid ei drefniadau casglu biniau a chasglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob pedair wythnos.

Er mwyn annog preswylwyr i ailgylchu mwy, mae'r awdurdod am ddarparu biniau du newydd 240 litr i gartrefi yn hytrach na'r rhai presennol sydd ond yn dal hyd at 140 litr o wastraff.

Bydd swyddogion yn ymweld 芒 gwahanol ardaloedd i drafod y cynigion 芒 phreswylwyr yn yr wythnosau nesaf.

Mae disgwyl i'r mater fynd o flaen bwyllgor craffu'r cyngor yn y misoedd nesaf a'r gobaith yw y bydd yn bosib i gyflwyno'r drefn newydd yn ystod 2019.

Os fydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd casgliadau wythnosol yn parhau yn achos gwastraff bwyd a bydd deunyddiau sy'n bosib i'w hailgylchu fel papur, gwydr, caniau a phlastig yn cael eu casglu bob wythnos yn y dyfodol yn hytrach na phob pythefnos.

Ac mae bwriad i gyflwyno casgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan.

Cost gwaredu gwastraff

Dywed y cyngor fod y sir yn hanesyddol ag un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru - dros 64% yw'r ffigwr mwyaf diweddar - ond "er gwaethaf yr holl ymdrech, mae mwy na 5,000 tunnell o ailgylchu yn parhau i gael ei daflu trwy gasgliadau gwastraff cyffredinol".

Mae hynny, medd y cyngor, yn costio 拢500,000 y flwyddyn - arian a ellir "fod yn cael ei wario ar wasanaethau cyngor angenrheidiol" - ac er mwyn "lleihau costau gwaredu diangen" bydd yn mynd ati i geisio "newid y ffordd mae preswylwyr yn ailgylchu".

Mae disgwyl y bydd rhan helaeth o gartrefi'r sir yn rhan o'r drefn newydd ac mae'r cyngor yn casglu gwybodaeth am y cartrefi hynny lle y gallai fod yn anaddas.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyngor Conwy oedd y cyntaf i ddechrau casglu biniau unwaith y mis ond mae anghytuno o hyd ynghylch cyflwyno'r drefn yn barhaol

Dywedodd yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am faterion gwastraff ac ailgylchu, y Cynghorydd Brian Jones bod angen cyrraedd targed ailgylchu o 70% erbyn 2025, a bod trafodaethau i godi'r targed i 80% yn y dyfodol.

"Mae angen cymryd camau i ddatblygu'r model cywir ar gyfer Sir Ddinbych a gwastraffu llai," meddai. "I wneud hynny, rydym eisiau deall anghenion ailgylchu pobl, clywed am unrhyw effaith posibl y gall y newidiadau hyn ei gael ar gartrefi a gweithio gyda chymunedau i reoli'r newidiadau arfaethedig.

"Rydym yn hyderus y gall cartrefi Sir Ddinbych wynebu'r her, ond mae rhai sefyllfaoedd lle gall hyn fod yn anoddach. Felly, rydym yn edrych ar gasgliadau clytiau, biniau ychwanegol ar gyfer teuluoedd mwy a pharhau i gynnig casgliadau cymorthedig i'r rhai sydd eu hangen."

Wrth ymweld 芒 gwahanol rannau o'r sir yn yr wythnosau nesaf, bydd staff hefyd yn trefnu nifer o brosiectau addysgol i annog mwy o ailgylchu.

Dywed y cyngor eu bod wedi "edrych ar brofiadau cynghorau eraill" wrth lunio'r cynigion. Cyngor Sir Conwy oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i drefnu casgliadau gwastraff misol ond mae anghytuno o hyd yngl欧n 芒'r drefn honno.